Skip to main content

Y diweddaraf am gynnydd cynllun pont droed Llanharan

Llanharan bridge

Yn dilyn llwyddiant y gwaith gosod pont droed newydd ar benwythnos 14-15 Hydref, mae modd i'r Cyngor ddarparu'r newyddion diweddaraf am gamau nesaf y cynllun.

Mae contractwr y Cyngor wrthi'n gorffen y llwybrau troed. Dylai'r gwaith yma ddod i ben yr wythnos nesaf a bydd modd ailagor y bont droed. Bydd paneli mewnlenwi dros dro yn cael eu defnyddio i lenwi'r bwlch hyd nes y bydd y Cyngor a Network Rail yn cytuno ar drefniadau mewnlenwi parhaol.

Yn ogystal â hynny, bydd gwaith adeiladu croesfan newydd i gerddwyr ar yr A473 Heol Pen-y-bont (yn agos at y Stryd Fawr) yn dechrau ddydd Llun, 30 Hydref ac yn parhau am tua 4 wythnos. Mae'r rhan yma o'r cynllun yn cynnwys gosod croesfan pâl newydd. Mae'r gwaith yma'n cynnwys gosod signalau traffig, gwneud addasiadau i'r llwybr cerdded, gosod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau a marciau ffordd. Bydd gwaith trwsio'r system ddraenio hefyd yn digwydd cyn gosod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau.

Bydd rhaid gosod goleuadau traffig pedair ffordd er mwyn adeiladu'r groesfan newydd oherwydd y cyffyrdd â Rhodfa'r Bryn a Heol Dan-y-graig. Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, bydd y signalau traffig mewn grym yn ystod yr amseroedd lleiaf prysur (rhwng 9.30am a 3pm) yn unig.

Bydd rhaid cau'r ffordd am benwythnos cyfan er mwyn gosod wyneb newydd o'r gyffordd â Rhodfa'r Bryn (i'r de o'r bont droed) gydag ychydig o waith gosod wyneb newydd i'r 30 metr cyntaf ar Heol y Capel. Bydd llwybr amgen addas yn cael ei ddarparu a bydd bws gwennol ar gael yn lle bysiau sy'n cael eu heffeithio. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am y trefniadau yma maes o law.

Hoffai'r Cyngor ddiolch unwaith eto i'n trigolion am eu hamynedd parhaus a'u cydweithrediad wrth i ni gyflawni'r cynllun yma.

Wedi ei bostio ar 23/10/2023