Skip to main content

Cyfle i ddweud eich dweud ar fesurau lliniaru llifogydd Treorci

Treorchy FAS consultation CYM - Copy

Bydd cynigion pwysig i fuddsoddi yn nyfodol Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci yn cael eu cyflwyno i'r gymuned yn rhan o ymgynghoriad pedair wythnos sy'n dechrau ar 25 Medi. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys dau achlysur lleol.

Mae tref Treorci wedi'i nodi yn un o'r cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ran dŵr wyneb a llifogydd yn y cwrs dŵr cyffredin. Mae stormydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi amlygu'r angen i fuddsoddi mewn gwaith lliniaru llifogydd mawr - achosodd Storm Dennis lifogydd mewn 44 eiddo preswyl a 4 eiddo masnachol. Darganfyddodd adroddiad llifogydd Adran 19 mai prif achos y llifogydd oedd swm sylweddol o ddŵr yn llifo oddi ar ochrau serth y bryniau yn yr ardal.

Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci yn rhaglen o fesurau i leihau'r perygl o lifogydd a gwella isadeiledd lleol er mwyn sefydlu lefel o amddiffyniad rhag storm unwaith mewn 100 mlynedd, ac amddiffyniad pellach ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Mae'r Cyngor wedi penodi Restart yn ymgynghorydd i sgrinio a dadansoddi nifer o opsiynau ar gyfer y Cynllun. Mae opsiwn a ffefrir bellach wedi'i lunio i'w ddatblygu ymhellach.

Bydd modd i drigolion ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr opsiwn a ffefrir a dweud eu dweud ar y cynnig mewn proses ymgynghori sydd ar ddod. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal o ddydd Llun, 25 Medi hyd at ddydd Llun, 23 Hydref. Mae trigolion lleol wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod am yr ymgynghoriad.

Bydd yr ymgynghoriad i’w weld ar adran 'Ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd' gwefan y Cyngor. Bydd modd gweld gwybodaeth a mapiau a bydd arolwg yno i drigolion ei lenwi i ddarparu adborth. Bydd copïau papur o'r arolwg ar gael mewn lleoliadau yn y gymuned megis Theatr y Parc a'r Dâr a Llyfrgell Treorci.

Bydd dau achlysur wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn Theatr y Parc a'r Dâr ddydd Mawrth, 10 Hydref a dydd Mercher, 11 Hydref. Bydd carfan y prosiect yno i ateb unrhyw ymholiadau o ganol dydd tan 7.30pm. Bydd y cynigion yn cael eu cyflwyno bedair gwaith (1pm, 5pm, 6pm a 7pm).

Dylai unrhyw un sy'n dymuno mynychu un o'r cyflwyniadau yma gysylltu â'r Cyngor ymlaen llaw i gadw lle gan fod nifer cyfyngedig o leoedd. Ffoniwch ni ar 01443 425014 neu e-bostio ymgynghori@rctcbc.gov.uk.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda'r ymgynghorydd arbenigol penodedig er mwyn dechrau proses ymgynghori ynghylch yr opsiwn a ffefrir ar gyfer buddsoddiad arfaethedig mewn mesurau lliniaru llifogydd yn Nhreorci. Dros y mis nesaf, byddwn ni'n rhannu'r manylion yma â'r gymuned a rhanddeiliaid yn rhan o broses ymgysylltu fawr.

"Ers Storm Dennis, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi’r 19 adroddiad Adran 19 oedd eu hangen i ymchwilio i achosion y llifogydd mewn cymunedau. Roedd yr adroddiad ar Dreorci a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022 yn cynnwys dadansoddiad o'r llifogydd a'r hyn y byddai modd ei wneud i leihau'r perygl pe byddai sefyllfa debyg yn digwydd eto. Mae darganfyddiadau'r adroddiad yma wedi llywio'r Cynllun Lliniaru Llifogydd arfaethedig.

"Mae gwaith lliniaru llifogydd pwysig eisoes wedi cael ei gynnal ar y tir i'r de o Fynwent Treorci, gyda chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y cam cyntaf ei gynnal yn 2022 trwy gynnal a chadw ac uwchraddio nifer o asedau'r cwrs dŵr o amgylch pen uchaf Ffordd y Fynwent a Stryd y Golofn, gan gynnwys gosod leinin yn y cwlfer a gwaith trwsio, ailadeiladu'r sianel, a gwelliannau mynediad er mwyn sicrhau bod gwaith cynnal a chadw yn haws yn y dyfodol.

"Mae'r Cyngor wrthi'n cynnal camau datblygu cyntaf y prif gynllun ac mae'r ymgynghoriad sydd ar ddod yn bwysig i roi gwybod i drigolion am ein cynnydd ac i ofyn am eu hadborth. Mae modd i'r cyhoedd gymryd rhan ar-lein o 25 Medi ymlaen neu drwy fynychu un o'r ddau achlysur yn Theatr y Parc a'r Dâr ar 10 ac 11 Hydref. Rwy'n annog y gymuned i ddweud ei dweud ac i gyfrannu gwybodaeth leol yn ystod y cam yma i lywio datblygiad y cynigion."

Wedi ei bostio ar 22/09/2023