Skip to main content

Y newyddion diweddaraf am Bont Reilffordd Llanharan

Yn sgil cynnydd pellach i'r cynllun i adnewyddu Pont Droed Rheilffordd Llanharan, mae bellach modd i'r Cyngor gadarnhau bod dyddiad wedi'i bennu i godi strwythur y bont newydd.

Yn amodol ar y tywydd, neu ganslo meddiant y trac rheilffordd, bydd y strwythur newydd yn cael ei osod ddydd Sadwrn, 14 Hydref. Felly bydd angen cau ffordd Heol Pen-y-bont ar y dyddiad hwn (fel y nodir yn y diweddariad blaenorol). Serch hynny, bydd union fanylion y trefniant yma'n cael eu cyhoeddi gan y Cyngor yn nes at y dyddiad. 

Er mwyn ceisio osgoi unrhyw broblemau posibl, mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau meddiant o'r rheilffordd ar gyfer y dydd Sadwrn canlynol, 21 Hydref. Serch hynny, fydd dim angen cau'r rheilffordd ar y dyddiad yma os bydd y strwythur yn cael ei godi ar 14 Hydref yn ôl y cynllun gwreiddiol.  

Yn dilyn codi'r bont yn llwyddiannus, bydd y gwaith sy'n weddill ar y safle yn cael ei gwblhau dros y pedair i bum wythnos nesaf. Wedyn, byddwn ni'n cael gwared ar yr holl fesurau rheoli traffig. 

Dyma achub ar y cyfle i ddiolch eto i drigolion am eu hamynedd parhaus a'u cydweithrediad mewn perthynas â'r cynllun yma.

 

Wedi ei bostio ar 22/09/23