Yn dilyn y diweddariad a gyhoeddwyd ar 22 Awst, mae'r Cyngor yn awyddus i rannu manylion am gynnydd pellach cynllun ailosod Pont Droed Rheilffordd Llanharan.
Mae gwaith gosod pyst wedi'i gwblhau ar yr arglawdd deheuol ac rydyn ni'n falch o gadarnhau bod prawf pwysau llwyddiannus wedi'i gynnal ddydd Gwener, 8 Medi.
Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo cyn codi strwythur y bont newydd yng nghanol mis Hydref. Wedyn, bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei wneud cyn cwblhau'r cynllun yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd.
Wrth baratoi ar gyfer codi'r bont, mae'r Cyngor wedi sicrhau Gorchymyn Traffig Dros Dro ar gyfer cau Heol Pen-y-bont. Bydd y gorchymyn yn cael ei gyhoeddi yfory (dydd Mercher, 13 Medi).
Tra bydd y Gorchymyn Cau Ffordd Dros Dro yn cwmpasu dyddiadau rhwng 30 Medi a 18 Rhagfyr 2023, gall y Cyngor gadarnhau mai dim ond am un nos Sadwrn y bydd angen cau’r ffordd tra bod strwythur y bont yn cael ei godi i’w le. Byddwn ni'n cadarnhau'r dyddiad a'r amseroedd penodol maes o law.
Hoffai'r Cyngor ddiolch unwaith eto i'n trigolion am eu hamynedd parhaus a'u cydweithrediad wrth i ni gyflawni'r cynllun yma
Wedi ei bostio ar 12/09/2023