Skip to main content

Parhau i gynnig Brecwast Nadolig i Gyn-filwyr Rhondda Cynon Taf yn 2023

Screenshot 2024-01-10 131705

Ddydd Mercher, 20 Rhagfyr, cynhaliodd cymdeithas Cyn-filwyr Taf Elái ei Brecwast Nadolig blynyddol i Gyn-filwyr yng Nghanolfan Gymuned Rhydfelen.

Roedd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE; y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Maureen Webber; y Maer, y Cynghorydd Wendy Lewis; AS Pontypridd, Alex Davies-Jones; Aelod o’r Senedd dros Bontypridd, Mick Antoniw; a Chomisiynydd Cyn-filwyr Cymru, y Cyrnol James Phillips ymhlith y rheiny a fu'n rhan o'r dathlu.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yr Awdurdod: “Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer rhoi a threulio amser gyda phobl sy’n dod â hapusrwydd a llawenydd i chi. Does dim ffordd well o helpu cymuned ein Lluoedd Arfog na chefnogi achlysuron fel Brecwast Nadolig Cyn-filwyr Taf Elái, gan ei fod yn dod â phobl at ei gilydd ar gyfer tymor yr ŵyl, ac yn rhoi cyfle i'r rheiny sydd ar eu pennau eu hunain i weld eu ffrindiau.

“Daeth nifer ryfeddol o’n cymuned leol o gyn-filwyr a’r lluoedd arfog i'r achlysur eleni, ac ymunodd mwy na 40 o gyn-filwyr a’u hanwyliaid gyda ni am frecwast Nadoligaidd.

“Mae hefyd yn gyfle i ni fyfyrio, anrhydeddu’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf a chofio’r rhai na allwn ni ddathlu gyda nhw, yn anffodus. Fyddwn ni byth yn eu hanghofio. Roedd Heather Jones, cantores o Bontypridd, wedi ymuno â ni hefyd, gan ddiddanu'r cyn-filwyr gyda'i llais gwych.

“Mae’r Cyngor yn cefnogi ei gyn-filwyr drwy gydol y flwyddyn, ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran – gan gynnwys Grŵp Cymunedol Rhydfelen sy’n cefnogi’r clwb brecwast – am ddod â'r achlysur yn fyw."

Hwn oedd y trydydd Clwb Brecwast Nadolig a gynhaliwyd gan Glwb Cyn-filwyr Taf Elái, ac fe gafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn ôl yn 2021. Eleni, daeth cyn-filwyr o bob rhan o’r cwm i ymuno â nhw, gan gynnwys y rheini o sefydliadau partner fel Valley Veterans a Caerphilly Veterans.

Meddai Dave King, Cadeirydd Cyn-filwyr Taf Elái: “Mae'n achlysur gwych rydyn ni'n ei gynnal bob blwyddyn i'r cyn-filwyr. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Gyngor RhCT, y Cynghorydd Maureen Webber, Jamie Ireland, Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, a’r merched sy’n coginio brecwast i ni bob wythnos, am bopeth maen nhw’n ei wneud i sicrhau bod yr achlysur yma'n llwyddiannus. Maen nhw'n aml yn gweithio o 7am i gael popeth yn barod ar gyfer y diwrnod.”

Meddai Alan Jones, Ysgrifennydd Cyn-filwyr Taf Elái: “Roedd yr achlysur y bore yma yn hyfryd ac wedi'i drefnu'n dda, a hoffwn ddiolch i'r staff am sicrhau bod modd i ni wneud hyn. Fe wnaethon ni godi £120 yn ein raffl Nadolig, a fydd yn mynd yn ôl i gronfa Grŵp Cyn-filwyr Taf Elái i gefnogi ein cyn-filwyr lleol.”

Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf Elái yn cynnal clwb brecwast bob ail ddydd Mercher y mis yng Nghanolfan Gymuned Rhydfelen. Mae croeso bob amser i aelodau o Gymuned leol y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-filwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r gymdeithas naill ai drwy ei thudalen Facebook, neu drwy ffonio 0774 748 5619.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gefnogaeth a chymorth ac mae wedi helpu dros chwe chant o gyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar am ddim i aelodau ddoe a heddiw'r Lluoedd Arfog. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Rhagor o wybodaeth: Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Yn ôl yn 2012, daeth y Cyngor yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018 ac a osododd esiampl ar gyfer gweddill Cymru. Mae’r cyfamod yn gytundeb cyd-ddealltwriaeth rhwng y gymuned sifil a’r lluoedd arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn 2017, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein cefnogaeth barhaus i gymuned y lluoedd arfog. Cadwyd y wobr hon ym mis Hydref 2022 yn dilyn asesiad o ymrwymiadau’r Cyngor, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.

Wedi ei bostio ar 10/01/24