Skip to main content

Cyllid ECO 4 Flex

Cynllun effeithlonrwydd ynni’r llywodraeth ledled y DU yw'r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) 4. Mae wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau allyriadau carbon. Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan gyflenwyr ynni sydd â rhwymedigaeth i wneud hynny (megis British Gas, EON, EDF) ac yn cael ei gyflawni gan gwmnïau gosod neu eu hasiantiaid. Dyma restr lawn o'r cyflenwyr ECO Manylion Cyswllt Cyflenwr ECO | Ofgem

Bydd y cynllun yma ar waith nes mis Mawrth 2026 a bydd yn cynnig mesurau megis insiwleiddio a gwresogi. Diben y cynllun yw lleihau tlodi tanwydd a biliau ynni yn ogystal ag allyriadau carbon. 

Cynllun Flex ECO4 

Mae ein Datganiad o Fwriad (yma) yn nodi meini prawf llawn cynllun ECO 4 LA FLEX ac mae crynodeb o'r meini prawf isod.

Os ydych chi neu aelod arall o'ch aelwyd yn bodloni’r meini prawf canlynol, mae'n bosibl eich bod chi'n gymwys:

  • Incwm aelwyd is na £31,000
  • Cyflwr iechyd difrifol/hir dymor sy'n gwaethygu drwy fyw mewn cartref oer (angen cadarnhad trwy atgyfeiriad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Bwrdd Iechyd Lleol neu Feddyg Teulu)
  • Rhaid bodloni cyfuniad o ddau o'r procsis canlynol ond does dim modd defnyddio procsi 1 a 3 gyda'i gilydd
    • Procsi 1: Cartrefi mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is 1-3 ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 sydd yn Nhylorstown 1, Penrhiw-ceibr 1 a Phen-y-waun 2. Cliciwch yma i weld a yw eich cod post chi o fewn y ffin MALlC (dataunitwales.gov.uk) Mae rhagor o wybodaeth a map rhyngweithiol ar-lein hefyd ar gael yma MALlC - Explore (gov.wales).
    • Procsi 2: Deiliaid cartrefi sy'n derbyn ad-daliad Treth y Cyngor (ad-daliadau'n seiliedig ar incwm isel yn unig, ddim yn cynnwys gostyngiad person sengl)
    • Procsi 3: Deiliaid cartrefi sy'n agored i fyw mewn cartref oer fel sydd wedi'i nodi yng Nghanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). 
    • Procsi 4: Deiliad cartref sy'n derbyn prydau ysgol am ddim o ganlyniad i incwm isel
    • Procsi 5: Ddim ar gael ar hyn o bryd
    • Procsi 6: Person sy'n byw yn yr eiddo sydd wedi'i atgyfeirio at yr Awdurdod Lleol gan eu darparwr ynni, neu Gyngor ar Bopeth, i gael cymorth gan fod y sawl sy'n atgyfeirio wedi'i nodi'n berson sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau nwy neu drydan.

GWNEUD CAIS AM GYMORTH CYLLID ECO 4 FLEX

Er mwyn gwneud cais am gyllid ECO 4 FLEX cysylltwch ag un o gyflenwyr/cwmnïau gosod cymeradwy y Cyngor. Byddan nhw'n hwyluso'r broses. Bydd hefyd modd i gyflenwyr ddarparu cyngor cychwynnol am gymhwysedd posibl a chynnal arolygon perthnasol gan gynnwys Tystysgrifau Perfformiad Ynni am ddim. 

Gellir gweld rhestr o'r holl dystiolaeth y bydd yn rhaid i chi ei darparu wrth wneud cais yma

Nodwch nad yw'r Cyngor yn cefnogi unrhyw gyflenwr ynni, asiant grant, cwmni gosod neu gwmni penodol. 

Gwybodaeth i Osodwyr sy'n cyflwyno ceisiadau ar ran ymgeiswyr:-

  • Byddwn ni ond yn derbyn ceisiadau gan osodwyr sydd wedi'u cofrestru ar Restr Darparwyr Cymeradwy'r Cyngor. Os ydych chi'n osodwr sydd ddim wedi cofrestru eto, cyfeiriwch at yr wybodaeth ar sut i wneud cais i gofrestru
  • Fydd ceisiadau ddim yn cael eu hasesu oni bai eu bod yn cael eu cyflwyno gyda'r dystiolaeth angenrheidiol h.y. prawf o berchnogaeth, prawf deiliadaeth (fel sy'n berthnasol i ganllawiau'r cynllun), ynghyd â'r dystiolaeth ofynnol o gymhwysedd ar gyfer deiliaid.
  • Dylai gosodwyr lenwi a chyflwyno'r Ffurflen Hysbysiad o Fesurau Contractwr (mae modd gwneud hyn yn ystod y cam cyflwyno cais neu’n hwyrach, ond gwell fyddai ei chyflwyno gyda’r cais cychwynnol)

Mae'n bosibl y bydd methu â darparu'r uchod wrth gyflwyno cais yn achosi oedi yn y broses asesu.

GWNEUD CAIS AM GYMORTH CYLLID ECO 4 FLEX

Os ydych chi'n effro i berfformiad ynni eich cartref ac yn credu eich bod chi'n bodloni'r meini prawf, mae modd gwneud cais yn uniongyrchol.  Os nad ydych chi'n effro i'ch perfformiad ynni, mae modd gwirio ar-lein am ddim i weld a oes Tystysgrif Perfformiad Ynni wedi'i chofrestru i'ch cartref www.gov.uk/dod-o-hyd-i-dystysgrif-ynni . Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â chwmni gosod yn gyntaf er mwyn trafod.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd dewis cwmni gosod neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â'r garfan Gwresogi ac Arbed drwy ffonio 01443 281136 neu anfon e-bost i GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk.

BETH SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD

  • Mae amrywiaeth o fesurau ynni ar gael yn rhan o'r cynllun ac maen nhw'n dibynnu ar berfformiad eich cartref o ran ynni a pha fesurau sy'n dechnegol addas. Bydd y cwmni gosod yn cynnal asesiad ynni cartref a bydd y cwmni'n cynnig cyngor ar fesurau posibl a'ch cymhwysedd.
  • Mae lefelau cyllid yn amrywio ac mae modd i hyn amrywio o fesurau wedi'u hariannu'n llawn i fesurau wedi'u hariannu'n rhannol sy'n gofyn am gyfraniad gan y cwsmer. Mae modd i lefelau cyllid amrywio trwy gydol y cynllun (sy'n rhedeg nes mis Mawrth 2026). Y cyngor i aelwydydd y mae angen i gwsmeriaid gyfrannu'n ariannol yw gwneud ymchwil i ddod o hyd i'r cynnig gorau.
  • Mae'n rhaid i bob cwmni gosod sy'n cynnal gwaith o dan y rhaglen ECO 4 gofrestru gyda'r Cynllun sydd wedi'i Hardystio gan y Llywodraeth trwy 'Trustmark'. Bwriwch olwg ar-lein i wirio a yw cwmni wedi'i gofrestru a'i achredu. Find trusted tradespeople with the only Government Endorsed Quality Scheme • TrustMark (Saesneg yn unig)
  • Rôl y Cyngor yw cyhoeddi meini prawf y cynllun a gwirio cymhwysedd cartrefi. Does dim gyda ni reolaeth uniongyrchol dros lefelau cyllido neu argaeledd cyllid trwy gydol y cynllun. 
  • Mae pob perthynas cytundebol rhwng perchennog y cartref a'r cwmni gosod sy'n cynnal y gwaith. Mae dewis contractwr yn seiliedig ar ddewis y cwsmer ac mae'n bwysig bod trigolion yn dilyn yr un drefn â phrynu mathau eraill o welliannau neu wasanaethau i'w cartrefi. 
  • Cyn cytuno i unrhyw waith, dyma gynghori trigolion i gymryd eu hamser a gwneud eu hymchwil eu hunain. Peidiwch â gadael i gwmni roi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad. 
  • Os oes rhaid talu cyfraniad preswylydd, mynnwch mwy nag un dyfynbris a chwilio am y gwerth am arian gorau. Os oes angen cymorth arnoch chi gyda chyfraniad y cwsmer, mae modd gwirio a ydych chi'n gymwys am fathau eraill o gyllid (bwriwch olwg ar wefan Gwresogi ac Arbed).
  • Wrth gymryd rhan yn unrhyw gynllun ECO 4, dyma gynghori trigolion i sicrhau eich bod chi'n derbyn pob gwarant angenrheidiol a/neu wybodaeth ôl-ofal yn dilyn cwblhau'r gwaith, yn ogystal â chadw cofnod o fanylion y cwmni ac unrhyw gytundebau.  
  • Os ydych chi o'r farn bod cwmni yn annilys, dylid rhoi gwybod i Wasanaethau Cyngor i Ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1133 neu drwy fynd ar-lein Cyngor ar Bopeth. Mae modd i'r gwasanaeth yma hefyd roi rhagor o wybodaeth am eich hawliau fel defnyddiwr.  O ran gweithgarwch twyllodrus, mae modd i Wasanaeth Safonau Masnach y Cyngor gynnig rhagor o gyngor ac arweiniad - 01443 425001 neu safonaumasnach@rctcbc.gov.uk Masnachu Teg | Rhondda Cynon Taf County Borough Council (rctcbc.gov.uk)
  • Mae'n bosibl y bydd rhai preswylwyr yn darganfod eu bod nhw'n gymwys am fwy nag un cynllun ynni (megis cynllun Nyth Llywodraeth Cymru ac ECO 4). Rydyn ni'n annog preswylwyr i ystyried pob opsiwn cyn parhau â gwaith gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, ac ystyried nad ydych chi'n gymwys ar gyfer mesurau o gynllun arall ar ôl derbyn cymorth gan un cynllun. Os ydych chi'n ansicr o ran pa gymorth sydd ar gael, cysylltwch â'r garfan Gwresogi ac Arbed.

GWYBODAETH AM Y CWMNI GOSOD

Os ydych chi'n gwmni gosod neu'n asiant ECO4 ac yn dymuno cymryd rhan yng nghynllun ECO4, gwnewch gais drwy GwerthuiGymru. Mae modd gwneud cais ar system edendrocymru ITT_97734  CBSRhCT Rhestr o Ddarparwyr Cymeradwy Mesurau Effeithlonrwydd Ynni Domestig.

Mae modd i garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor eich cynorthwyo a rhoi gwybodaeth i chi ar yr amrywiaeth o gymorth a grantiau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael. Am ragor o gymorth, ffoniwch 01443 281136 neu e-bostio GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk.

FFYNONELLAU ERAILL O GYMORTH

Siaradwch â chynghorydd yn yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Dewch o hyd i ffyrdd i arbed ynni yn eich cartref

Rhif ffôn: 0800 098 7950

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-6pm (heblaw am Wyliau'r Banc)

Dydd Sadwrn, 9am-12pm

Cysylltwch â ni - Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

OFGEM

Os oes angen i chi wneud cwyn am eich gosodiad

Mae ein rôl ni, a ninnau'n weinyddwr ar y Cynllun ECO, yn cynnwys gosod targedau ar gyfer pob cyflenwr ynni o dan rwymedigaeth, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio ac i fonitro eu cynnydd tuag at y targedau yma. Dydyn ni ddim yn goruchwylio trefniadau cytundebol rhwng cyflenwyr ynni o dan rwymedigaeth ar rheiny sy'n gosod mesurau effeithlonrwydd ynni ar eu rhan. Oherwydd hynny, mae ein gallu ni i ddatrys eich cwyn yn gyfyngedig. Fodd bynnag, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni er mwyn rhoi adborth am unrhyw brofiadau negyddol rydych chi'n eu cael. Bydd hyn yn ein galluogi ni i weithio â'r diwydiant a gwell safonau.

Am ragor o wybodaeth am ddatrys eich cwyn, ewch i'n gwefan.

Ofgem yw gweinyddwr cyffredinol y cynllun ac mae modd i drigolion sydd am wneud cwyn mewn perthynas ag unrhyw un o'r cynlluniau o dan ECO 4 weld rhagor o wybodaeth, yma:

Proses Gwyno am ECO4 | Ofgem

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y garfan Gwresogi ac Arbed ar 01443 281136 neu e-bostiwch GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk