Rôl y Y Garfan Cynnal Ymddygiad:
Mae'r Y Garfan Cynnal Ymddygiad (GCY) yn cynnwys carfan o ymarferwyr ymroddedig sydd â phrofiad helaeth o weithio yn ysgolion Rhondda Cynon Taf er mwyn hyrwyddo lles emosiynol ac ymddygiad plant a phobl ifainc. Mae'r Garfan Cynnal Ymddygiad yn wasanaeth masnachol sy'n cydweithio â'r Gwasanaeth Cynnal Dysgu. Mae'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion sydd wedi dewis i brynu Y Garfan Cynnal Ymddygiad o'r Awdurdod Lleol o dan delerau Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng yr Awdurdod Lleol ac ysgolion ar sail unigol. Mae'r gwasanaeth yma'n ymdrechu i gyflawni deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifainc a'u teuluoedd, a'i fwriad yw cynorthwyo ysgolion i feithrin diwylliant o reoli ymddygiad mewn modd cadarnhaol ac effeithiol.
Rydyn ni o'r farn:
- bod ymddygiad yn ffordd o fynegi anghenion sydd heb eu diwallu
- bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu cael ei glywed a bod modd dysgu strategaethau iddo er mwyn llwyddo a dysgu
- bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gyfle cyfartal a chael ei gynnwys, ac y dylid bodloni anghenion unigol drwy ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y plentyn
- bod modd i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu ei fedrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a chreu'i gyfle ei hun i newid
- y gall cymorth cynnar wedi'i dargedu helpu i ddatblygu annibyniaeth a gwytnwch emosiynol
- bod perthnasoedd cadarnhaol rhwng yr ysgol, teuluoedd, plant a phobl ifainc yn helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac ymgysylltu
- bod rhieni/gwarcheidwaid yn ddylanwadol a bod modd iddyn nhw ysgogi newid ar gyfer eu plant
- Mae modd i bob plentyn a pherson ifanc lwyddo, datblygu ei gryfderau unigol a gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r gymdeithas.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig darpariaethau craidd megis ymgynghoriadau, cyngor a chanllawiau i ysgolion i gynorthwyo ystod eang o ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (SEBD) ar lefel ysgol gyfan, grŵp ac yn unigol, asesu a nodi anghenion dysgwyr, ymateb i atgyfeiriadau unigol, pecynnau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol unigryw.
Drwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth, bydd y GCY yn anelu at wella profiadau plant a phobl ifainc sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol sylweddol a sicrhau eu bod nhw'n cael eu cynnwys. Bydd hynny'n lleihau'r angen i ysgolion eu gwahardd.
Ein Hymrwymiadau Ni
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth hygyrch ac ymatebol. Dylai ysgolion gyflwyno atgyfeiriadau o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn ymweld â'r ysgol. Mae modd cael ffurflenni gan y GCY. Byddwn ni'n ymateb i bob atgyfeiriad cyn pen 15 niwrnod o'i gyflwyno a bydd pob adroddiad yn cael ei gyflwyno cyn pen 20 niwrnod o gynnal yr asesiad, ymgynghoriad neu'r ymyriad. Mewn amgylchiadau eithriadol, ac mewn achos difrifol o dorri polisi ymddygiad yr ysgol, bydd modd blaenoriaethu plant a phobl ifainc ac ymdrin â'r sefyllfa ar frys. Byddai angen i hyn gael ei drafod gyda'r aelod o staff dan sylw a'i ategu gan dystiolaeth o ganiatâd gwybodus y rhiant mewn ysgrifen. Mae gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu i ysgolion ar dri lefel. Mae hyn yn adlewyrchu'r ymateb graddedig sy'n cael ei amlinellu yn y Cod Ymarfer i Gymru.
Dyma'r cymorth ar Ymyraethau Strategol sydd ar gael i ysgolion gan Y Garfan Cynnal Ymddygiad:
- Cyngor a darparu cyfleoedd hyfforddiant sy'n ymwneud â materion Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol ar gyfer athrawon ac amrywiaeth o staff cymorth.
- Hwyluso dull aml-asiantaeth o reoli ymddygiad
- Cynnig cyngor a sesiynau hyfforddiant i ysgolion sy'n ymwneud â thargedau a strategaethau'r Cynllun Addysg Unigol (IEP) a'r Cynllun Ymddygiad Unigol (CYU)
- Rhoi cyngor i ysgolion ynglŷn â'r broses wahardd cyfnod penodol a pharhaol
- Rhoi cyngor i ysgolion ynglŷn â strategaethau atal
- gwaith systemig i gefnogi datblygu a gwella ysgolion, gan gynnwys adolygiadau cefnogol
- ymgynghori a chyngor ar ddatblygu polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas ag ymddygiad a lles
- Ymweliadau cymorth a herio i fynd i'r afael â meysydd pryder e.e. gwahardd, achosion o fwlio, defnyddio cyfnodau tawelu, ymyrryd yn gorfforol mewn modd cadarnhaol ac ati
- cymorth ar gyfer gwaith prosiect mewn ysgolion ac ymyriadau sy'n ymwneud â Chynlluniau Gwella Ysgolion
- Archwiliad ac adolygiadau ysgol gyfan, e.e. strategaethau gwrth-fwlio, darpariaeth AAA ar gyfer ymddygiad/lles ac ati
- Cyngor i ysgolion ar ddatblygiadau cenedlaethol a lleol mewn perthynas ag ymddygiad a lles.
Cymorth i ysgolion sydd eisiau'r Y Garfan Cynnal Ymddygiad i gefnogi Ymyraethau Grŵp:
Gall y rhain gynnwys:
- cyngor ac arweiniad ymgynghori ar ymyriadau grŵp a/neu strategaethau i wella ymddygiad a lles
- ymyriadau grŵp wedi'u hanelu at ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
- dadansoddi perthynas yn yr ystafell ddosbarth drwy ddefnyddio data sosiometrig a datblygu ymyriadau i sicrhau newid (prosiect Lles mewn Addysg)
- datblygu dulliau pontio
- cynorthwyo ysgolion i ddatblygu darpariaeth fewnol ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed, sydd wedi'u dadrithio a/neu sydd wedi'u hymddieithrio
- gwaith datblygu prosiectau treialu
- cymorth ar gyfer trefnu'r ystafell ddosbarth a'i rheoli
- addysgu enghreifftiol ac ar y cyd, i hyrwyddo rheoli ymddygiad a pherthynas gadarnhaol mewn modd cadarn yn yr ystafell ddosbarth (Amser Cylch a Chylch Ffrindiau)
- Dadansoddiad o'r amgylchedd ac ymyriadau ar sail hynny.
- Darparu sesiynau cyd-chwarae penodol yn ystod cyfnodau distrwythur e.e. amser cinio, er mwyn gwella
- sgiliau cymdeithasol dysgwyr a gwella sgiliau'r staff cymorth
Cymorth sydd ar gael gan Y Garfan Cynnal Ymddygiadar gyfer Ymyraethau Unigol
Gall y rhain gynnwys:
- ymgynghori, cyngor ac arweiniad ar ymyriadau i wella ymddygiad a lles
- ymgynghori, cyngor ac arweiniad ar ddatblygu Cynlluniau Chwarae Unigol, Cynlluniau Ymddygiad Unigol, Cynlluniau Cymorth Bugeiliol, Asesiadau Risg, Cynlluniau Trin Cadarnhaol
- cymryd rhan mewn adolygiadau cynnydd, e.e. gweithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, datganiadau AAA, Cynlluniau Cymorth Bugeiliol, a'r Garfan o Amgylch y Teulu ac ati.
- datblygu strategaethau cymorth i ddisgyblion ar y cyd
- cymorth arbenigol ac ymyriadau uniongyrchol i fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
- hyfforddi plant a phobl ifainc ynglŷn â strategaethau ymddygiad
- cymorthfeydd ymddygiad/sesiynau galw heibio ar gyfer rhoi cyngor i blant, pobl ifainc, staff neu rieni
- cymorth un pwrpas ar gyfer trosglwyddo ac ailintegreiddio
- ymyriadau therapiwtig/sy'n canolbwyntio ar atebion
- arsylwi ar anghenion plant a phobl ifainc a'u hasesu
- paratoi adroddiadau
- cyngor, cymorth a hyfforddiant ar gyfer staff ystafell ddosbarth a staff bugeiliol
- ymyriadau, cyfarfodydd a chynadleddau adferol
- gweithredu amlasiantaeth i gefnogi rhieni/gwarcheidwaid, gan gynnwys bod yn bresennol mewn cyfarfodydd
- cyngor ac arweiniad ynglŷn â gwahardd
- cymorth i hwyluso ailintegreiddio yn dilyn cyfnod o waharddiad
- cymorth dros y ffôn a thrwy e-bost
- cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd panel/pwyllgor disgyblu
Polisi a Chanllawiau Gwrth-fwlio ar gyfer Ysgolion
Canllawiau newydd/ Canllawiau gwrth-fwlio newydd Llywodraeth Cymru i herio bwlio mewn ysgolion
Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, awdurdodau lleol, rhieni, gofalwyr a phlant a phobl ifanc, ac fe’u lansiwyd ar drothwy Wythnos Gwrth-fwlio, sy’n cychwyn ddydd Llun, Tachwedd 11.
Gallwch weld y canllawiau yn: https://llyw.cymru/canllawiau-gwrth-fwlio