Rôl y Gwasanaeth:
Mae’r Gwasanaeth Cynnal Dysgu yn gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifainc, teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau eraill i fod yn gefn i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig. Mae’r anghenion yma'n cynnwys nam ar y golwg, nam ar y clyw, anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, anawsterau lleferydd ac iaith, anawsterau dysgu cymhleth ac anawsterau dysgu penodol (Dyslecsia) ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Mae’r Gwasanaeth yn cyflogi athrawon arbenigol ac amrywiaeth o staff cymorth i ddarparu cymorth teithiol.
Mae’r Gwasanaeth yn gwneud cyfraniad pwysig gan helpu ysgolion i nodi, asesu a darparu ar gyfer plant a phobl ifainc ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rheiny y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw.
Bwriad y Gwasanaeth Cynnal Dysgu yw datblygu gallu ysgolion prif ffrwd i gynnwys dysgwyr gydag anghenion ychwanegol yn llwyddiannus. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cefnogi ysgolion drwy ddarparu gwasanaeth cynghori ac ymgynghori ar bob math o anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r ysgolion hynny sydd â dosbarthiadau arbenigol o dan delerau cytundeb Ysgol/yr Awdurdod Lleol.
Mae'r Gwasanaeth yn darparu gwasanaethau cymorth ar gyfer ysgolion ar dair lefel:
Mae'r cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cynnal Dysgu ar sail strategol ysgol gyfan yn cynnwys:
- Cyngor a darparu hyfforddiant ar gyfer staff addysgu a staff sy ddim yn addysgu
- Hyfforddiant ysgol gyfan ar Anghenion Dysgu Ychwanegol i wella cynhwysiant
- Codi ymwybyddiaeth ar fentrau cyfredol
- Cyngor ac arweiniad i AAAau ynghylch targedau priodol, strategaethau ac adnoddau arbenigol
- Hyfforddiant/cynefino ar gyfer AAAau newydd, gan gynnwys gofynion Cod Ymarfer AAA Cymru
- Diwrnodau datblygiad proffesiynol rheolaidd ar gyfer holl gydlynwyr AAA RhCT
- Hwyluso ymagwedd amlasiantaeth tuag at faterion AAA
- Ymagweddau ymyrraeth gynnar/Ymwybodol o Awtistiaeth a Strategaethau Dyslecsia Gyfeillgar ac arferion cynhwysol
- Cefnogi ysgolion i godi cyrhaeddiad a gwella effeithiolrwydd ysgolion
Mae'r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion sy'n dymuno i'r Gwasanaeth Cynnal Dysgu gefnogi grwpiau o ddysgwyr Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol yn cynnwys:
- Ymgynghoriad, cyngor ac ymyrraeth
- Trefnu a hwyluso strategaethau ymyrryd, e.e. disgyblion ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig
- Darparu hyfforddiant ac arweiniad penodol i wella sgiliau staff cymorth mewn ysgolion
- Cyngor/hyfforddiant ar gynllunio cwricwlwm/gwahaniaethu Lefel Unigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu
Mae'r cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cynnal Dysgu i ddisgyblion yn unigol yn cynnwys:
- Arsylwi ac asesu dysgwyr, gan gynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol priodol eraill
- Cyngor ac Arweiniad
- Darparu/monitro'r Cynlluniau Addysg Unigol
- Darparu hyfforddiant arbenigol lle bo hynny'n briodol
- Cysylltu â rhieni/cynhalwyr a phob gweithiwr proffesiynol priodol
- Gweithio mewn partneriaeth â'r holl weithwyr proffesiynol ac asiantaethau perthnasol i nodi lleoliad arbenigol, lle bo hynny'n briodol
- Presenoldeb mewn adolygiadau priodol, gan gynnwys adolygiadau blynyddol
- Darparu cyngor fel rhan o'r asesiad statudol pan fo angen
- Cyngor/hyfforddiant i staff mewn darpariaethau arbenigol
Dyma wybodaeth ynglŷn â hyfforddiant Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn y Blynyddoedd Cynnar (gwybodaeth yn Saesneg yn unig)
Free on Future Learn English in Early Childhood: Language Learning and Development
www.futurelearn.com/courses/english-in-early-childhood
It is a British Council course and access is over 6 weeks. It’s very interesting and looks as if there’s a lot of signposting to free resources that can be used in the classroom and at home.