Skip to main content

Plant Sydd Ar Goll O Fyd Addysg

Ydych chi'n pryderu am blentyn sydd ddim yn mynychu'r ysgol? - Os ydych chi o'r farn bod plentyn yn colli ysgol, mae rhaid i'r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles gael gwybod.

Diffiniad plentyn sydd ar goll o fyd addysg yw plentyn rhwng 5 ac 16 oed sydd ddim ar y gofrestr ysgol ac sydd ddim wedi derbyn darpariaeth addysg am dros 4 wythos. Dydy hyn ddim yn cynnwys plant sydd yn derbyn addysg gartref. Dydy plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol ond sydd ddim yn mynychu ddim yn bodloni diffiniad plentyn sy'n colli addysg. Fodd bynnag bydd hyn yn fater presenoldeb. Cyfeiriwch at ‘Absenoldebau yn ystod tymor yr ysgol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)’ am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r materion yma.

Rhaid i chi gysylltu â ni yn syth:

  • os ydych chi wedi sylwi ar blentyn sydd ddim yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.
  • os ydych chi o'r farn bod plentyn ddim yn derbyn addysg o gwbl.
  • os ydych chi yn prydeu am blant sydd wedi mynd ar goll o'ch ardal neu gymdogaeth.

Does dim rhaid i chi roi eich manylion personol, ond os ydych chi'n darparu unrhyw fanylion, bydd y mater yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.

Os ydych chi'n berson proffesiynnol ac yn ceisio cysylltu â ni ynglŷn â phlentyn sy'n colli addysg, cwblhewch y ffurflen yma gyda chymaint o wybodaeth ag sy'n bosib a'i he-bostio i PresenoldebaLles@rctcbc.gov.uk.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Drwy adrodd eich pryderon i ni, rydych chi'n sicrhau diogelwch a lles y bobl ifainc sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned.

Mae gan y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles drefniadau sydd yn helpu nodi unrhyw blentyn sydd ar goll o fyd addysg yn yr ardal, a dod o hyd iddyn nhw cyn belled ag y mae'n bosibl. Unwaith bod plentyn wedi'i nodi, bydd y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles yn cysylltu â'r asiantaethau priodol er mwyn cynorthwyo'r plant a'u teuluoedd, i gael yr addysg briodol mor gyflym â phosibl.

Tudalennau Perthnasol