Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Hamdden Llanilltud Faerdref

ORIAU AGOR Y GANOLFAN

(Nodwch, mae mynediad i'r dosbarthiadau a mynediad cyntaf/olaf i'r pwll nofio neu'r gampfa yn dibynnu ar amserlenni'r cyfleusterau penodol hynny, nid oriau agor y ganolfan).

Llantwit Fardre Sports Centre Timetable
DYDDIAU AMSEROEDD
Dydd Llun 8.45am - 8pm
Dydd Mawrth 8.45am - 8pm
Dydd Mercher 8.45am - 8pm
Dydd Iau 11am - 8pm
Dydd Gwener 8.45am - 6pm
Dydd Sadwrn 8.45am - 12pm
Dydd Sul 8.45am - 12pm

MYNEDIAD I'R GANOLFAN A'I CHYFLEUSTERAU

  • Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.

CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
  • Y rhieni sy'n gyfrifol am eu plant ar bob adeg.
  • Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

CYFLEUSTERAU NEWID

  • Mae ystafelloedd newid ar wahân ar gael i ddynion a merched. Maen nhw'n cynnwys cawodydd, loceri a pheiriannau sychu gwallt.
  • Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn ystafell newid y merched.

LLUNIAETH

Mae gennym ni beiriant gwerthu sy'n darparu diodydd oer a byrbrydau.

CYFLEUSTERAU ACHLYSURON

Mae prif neuadd ar gael i'w llogi ar gyfer achlysuron. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.