Mae Canolfan Hamdden Tonyrefail yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.
Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau.
Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.
Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â charfan Chwaraeon RhCT?
Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.
Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!
Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Hamdden Tonyrefail
| Dydd Llun | Amseroedd |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
06:00 - 07:30 |
| U3A (Ail ddydd Llun y mis) |
13:30 - 15:00 |
| Tonyrefail Tigers |
17:00 - 19:00 |
| Clwb Achub Bywyd Cwm Rhondda |
19:00 - 20:00 |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT (Hydref – Mawrth) |
19:00 - 20:00 |
| Dydd Mawrth | |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
06:00 - 07:30 |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
17:00 - 18:00 |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
16:00 - 21:00 |
| RSD Dance |
17:00 - 19:00 |
| Clybiau Bechgyn a Merched Tonyrefail (Hydref – Mawrth) |
18:00 - 20:00 |
| Carate Shotokan |
18:00 - 20:00 |
| Dydd Mercher | |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
06:00 - 07:30 |
| Clwb Pêl-droed Gilfach Goch |
19:00 - 20:00 |
| Dydd Iau | |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
06:00 - 07:30 |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
17:00 - 21:30 |
| Carate Shotokan |
19:00 - 20:00 |
| Clybiau Bechgyn a Merched Ton |
18:00 - 20:00 |
| Clwb Pêl-rwyd Merched Ton |
19:00 - 20:00 |
| Dydd Gwener | |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
06:00 - 07:30 |
| Disgo Club Fusion (Ail ddydd Gwener y mis) |
18:00 - 22:00 |
| Carfan Nofio Perfformiad RhCT |
18:00 - 21:00 |
| Tonyrefail Tigers |
18:00 - 21:00 |