Skip to main content

Gwersi Achub Bywyd

Gwersi Achub Bywyd i Ddechreuwyr

Dyma'r cam cyntaf tuag at ddod yn Achubwr Bywyd cymwys ac mae'n rhan o'n rhaglen Gwersi Nofio i Blant.

Mae'r rhaglen yn dysgu sgiliau i'ch plentyn a fydd eu hangen arnyn nhw i fod yn hyderus yn y pwll neu yn y môr. Gyda deunyddiau lliwgar a gweithgareddau amrywiol, hwyliog, bydd y Gwersi Achub Bywyd i Ddechreuwyr yn dysgu plant sut i nofio a mwynhau'r dŵr mewn modd diogel, boed mewn dŵr bas neu ddwfn.

Mae'r lefelau efydd, arian ac aur wedi'u cynnwys yn yr aelodaeth Hamdden am Oes i blant neu mae modd talu amdanyn nhw drwy ddebyd uniongyrchol.

Rhagor o wybodaeth - Cwrs Achub Bywyd i Ddechreuwyr

Yr Academi Achub Bywyd Cenedlaethol (NLA) 

Dyma'r cam nesaf tuag at ddod yn Achubwr Bywyd cymwys. Mae'r Academi Achub Bywyd Cenedlaethol (NLA) yn rhaglen sydd wedi'i dylunio i ddarparu sgiliau bywyd, gan ganolbwyntio ar weithio ar y traeth, yn y pwll a dŵr agored.

Mae'r cwrs ar gael drwy'r cerdyn aelodaeth Hamdden am Oes i Blant.

Cysylltwch â'ch canolfan leol i gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw lle. 


Rhagor o wybodaeth - Cwrs Goroesi ac Achub

Cymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol (NPLQ)

Dyma'r cam olaf cyn dod yn Achubwr Bywyd cymwys a bydd cwblhau'r cwrs yma'n eich galluogi chi i weithio fel Achubwr Bywyd ym mhob rhan o'r wlad.

O daflu lein i adfywio cardio-pwlmonaidd, byddwch chi'n dysgu sgiliau gwych yn ystod eich cwrs NPLQ y bydd modd i chi eu defnyddio drwy gydol eich bywyd.

I gael gwybodaeth am gadw lle, cysylltwch â'ch canolfan leol.