Skip to main content

Trwydded Yrru Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat

Mae angen trwydded cyn i unrhyw un yrru cerbyd hacni (tacsi) neu gerbyd hurio preifat. Dydy Awdurdod Trwyddedu Rhondda Cynon Taf ddim yn rhoi trwyddedau ar wahân ar gyfer gyrwyr cerbyd hacni / cerbyd hurio preifat. Rydyn ni'n rhoi trwydded ar y cyd yn unig.

NODWCH: O 1 Medi 2017 bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gofyn i bob ymgeisydd newydd sy'n gwneud cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat ar y cyd sefyll prawf gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 425001 neu e-bostio Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk 

Os ydych chi'n ymgeisydd newydd, cliciwch isod i drefnu eich prawf gwybodaeth a rhifedd:

Mae modd gweld manylion y gofynion sydd eu hangen i ddal trwydded trwy glicio ar y ffurflen gais ar-lein isod. Unwaith y byddwch wedi llenwi eich cais am drwydded newydd neu adnewyddiad, mae'n rhaid i chi fynd i Swyddfa'r Cyngor yn Nhŷ Elái lle bydd swyddog yn gwirio'r dogfennau ac yn anfon eich cais ymlaen. Rhaid i chi ddod â'r holl ddogfennaeth wreiddiol gyda chi. Fydd dim modd i'r swyddog barhau â'r apwyntiad heb y dystiolaeth yma. Bydd y ffurflen yn eich galluogi chi i ddewis dyddiad ac amser ar ôl i chi nodi'r holl wybodaeth ofynnol.

Cliciwch yma i gwblhau eich ffurflen gais a threfnu eich apwyntiad:

Ar ôl trefnu eich apwyntiad, paratowch y dogfennau canlynol:

  • Trwydded Yrru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (‘DVLA’) (gwreiddiol – nid llungopi) sy'n dangos eich cyfeiriad presennol
  • Eich pasbort / tystysgrif geni / tystysgrif priodas / trwydded gwaith
  • Manylion eich Rhif Yswiriant Gwladol
  • Dau lun lliw (maint pasbort) wedi'u tynnu yn ystod y mis diwethaf
  • Y ffi ofynnol:                                                                                                                                                                                                                                                                                    Ar ôl darparu'r dogfennau uchod, bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r DVLA am unrhyw gofnodion a gedwir yn eich erbyn. Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn anfon y gwiriad yma aton ni ymhen tua 4 wythnos ar ôl i ni dderbyn eich cais. Dyma'r amser cyfartalog y maen nhw'n ei gymryd.  Cyn i chi gael trwydded, bydd rhaid i chi hefyd gyflwyno tystysgrif feddygol gyfredol os:
  • Rydych chi'n ymgeisydd newydd
  • Os ydych chi'n 45-65 oed - bydd rhaid i chi gyflwyno tystysgrif meddygol bob 5 mlynedd
  • Os ydych chi dros 65 oed - bydd rhaid i chi gyflwyno tystysgrif meddygol bob blwyddyn

Os ydych chi'n ymgeisydd newydd, byddwn ni'n rhoi copi o'r ffurflen feddygol i chi ar gais. Os bydd angen i chi adnewyddu eich trwydded a bod angen prawf meddygol  arnoch chi, dylech dderbyn y ffurflen yn y post fel rhan o'ch llythyr atgoffa.

Bydd modd i chi aros nes bod y gwiriadau angenrheidiol wedi'u hanfon atom ni cyn i chi lenwi'r ffurflen. Cofiwch, os byddwch chi'n penderfynu tynnu eich cais yn ôl, neu os byddwn ni'n gwrthod rhoi trwydded i chi am unrhyw reswm, fydd dim modd i chi hawlio'r arian yn ôl gan eich Meddyg Teulu. Eich penderfyniad chi, felly, yw dewis pryd yn ystod y broses ymgeisio y dylech chi gael prawf meddygol.

Pwyllgor Trwyddedu  

Mae'n bosib bydd eich cais chi yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad.  Mae modd cael rhagor o gyngor am yr uchod gan Swyddogion Trwyddedu.

Manylion Cyswllt

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301