Os doedd y bagiau gwastraff/ailgylchu neu finiau ddim wrth y man casglu erbyn 7am, os oedd gyda chi fagiau duon ychwanegol, neu roedd eich deunydd ailgylchu wedi'i lygru, doedd eich casgliad ddim wedi'i fethu a does dim modd inni ddychwelyd tan y casgliad nesaf.
Os oedd y gwastraff ailgylchu wedi'i lygru, tynnwch y gwastraff o'r man casglu a'i ddidoli mewn bag ailgylchu glas/coch priodol. Does dim modd i ni ddychwelyd i gasglu'ch bagiau wedi'u hail-ddidoli tan y casgliad nesaf yn ôl yr amserlen.
Os nad oes un o'r uchod yn berthnasol ac os nad oedd eich gwastraff a'ch ailgylchu wedi'u casglu o fewn 1 diwrnod gwaith yna mae modd i chi roi gwybod i ni am gasgliad wedi'i fethu.
Rhowch wybod i ni ar-lein os bod eich casgliad ailgylchu a gwastraff wedi'i fethu