O 8 Ebrill 2024, bydd y Cyngor yn cyflwyno Bagiau Coch newydd ac yn newid sut mae bagiau glas yn cael eu defnyddio yn unol â Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle 2024. O 8 Ebrill 2024, bydd angen gosod yr eitemau canlynol naill ai mewn bag glas neu fag coch y Cyngor:
Bagiau Glas NEWYDD - Papur swyddfa, papurau newydd, cylchgronau, cardfwrdd tenau, bocsys grawnfwyd, post sothach, amlenni (cewch chi ddefnyddio'r hen fagiau glas ar gyfer cynhyrchion papur yn unig). Bydd angen prynu'r bagiau glas newydd ar ôl i chi ddefnyddio'r holl fagiau glas sy'n weddill gyda chi.
Bag Coch (yn wag ac wedi'u rinsio) - Poteli plastig, cwpanau plastig, caniau diod, tuniau bwyd, potiau iogwrt, pecynnau brechdanau plastig, cartonau diodydd cwyraidd, ffoil glân.
Mae modd i chi gyfnewid rholiau/pecynnau o'r hen fagiau glas heb eu hagor am fagiau coch newydd. E-bostiwch Ailgylchu@rctcbc.gov.uk i wneud hyn.