Skip to main content

Beth yw'r meini prawf a'r sgiliau defnyddiol ar gyfer dod yn Gynghorydd?

I ddod yn gynghorydd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, rhaid i chi fod:

  • yn 18 oed neu'n hŷn 
  • yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad, neu'n ddinesydd tramor cymwys 

A rhaid i chi fodloni o leiaf un o'r pedwar canlynol: 

  1. Rydych wedi eich cofrestru, a byddwch yn parhau i fod wedi eich cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol rydych yn dymuno sefyll ar ei chyfer o ddiwrnod eich enwebu ymlaen. 
  2. Rydych wedi meddiannu, fel perchennog neu denant, unrhyw dir neu safle arall yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad. 
  3. Mae eich prif neu unig le gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad wedi bod yn yr ardal awdurdod lleol. 
  4. Rydych wedi byw yn yr ardal awdurdod lleol am y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad.

I asesu a ydych chi'n bodloni'r meini prawf i ddod yn gynghorydd, cyfeiriwch at Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy'n amlinellu manylion y cymhwyster yn llawn.

Does dim modd i chi fod yn Gynghorydd os ydych chi:
  • Yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; (mae hyn ond yn berthnasol i Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol - nid Cynghorwyr Cymuned). Serch hynny, dydych chi ddim wedi'ch anghymhwyso rhag sefyll yn ymgeisydd mewn etholiad i awdurdod lleol*; neu
  • Yn dal swydd â chyfyngiadau gwleidyddol; neu
  • Yn destun gorchymyn methdaliad ar hyn o bryd; neu
  • Wedi cael eich anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n cynnwys arferion etholiadol anghyfreithlon neu lwgr); neu
  • Wedi treulio cyfnod yn y carchar (gan gynnwys dedfryd ohiriedig) o dri mis neu ragor yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; neu
  • Wedi cael eich anghymhwyso o dan ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag arferion anghyfreithlon neu lwgr
  • Rydych chi'n ddarostyngedig i ofynion hysbysu yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 ac mae'r cyfnod cyffredin sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer cyflwyno apêl neu gais mewn perthynas â'r gorchymyn neu hysbysiad wedi dod i ben.

*Os cewch chi eich ethol, dydy'r anghymhwysiad rhag gweithio i'r awdurdod lleol ddim yn berthnasol i unrhyw adeg cyn i chi ddatgan derbyn swydd. Rhaid eich bod chi wedi ymddiswyddo o'ch swydd cyn llofnodi'r datganiad derbyn swydd.

Mae modd dod o hyd i ragor o ganllawiau ac adnoddau ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.

ADDUNED AMRYWIAETH CYNGOR RHONDDA CYNON TAF

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod bod amrywiaeth o fewn Llywodraeth Leol yn ymwneud â chreu amgylchedd cynhwysol, derbyn gwahaniaethau pob unigolyn, galluogi pob Cynghorydd i gyflawni ei lawn botensial ac, o ganlyniad i hynny, caniatáu i wasanaethau'r Cyngor helpu ein trigolion yn y modd gorau posibl. Mae'r Cyngor felly yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol.

Mae modd gweld rhagor o ganllawiau ac adnoddau ar wefan Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Datganiad Amrywiaeth | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Sgiliau defnyddiol i feddu arnyn nhw fel Cynghorydd:

  • Ymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus a chynrychioli'ch cymuned
  • Sgiliau cyfathrebu, gwrando a gwaith tîm
  • Y gallu i ystyried ystod eang o wybodaeth, a chraffu ar hyn yn effeithiol i ddod i gasgliad rhesymol
  • Sgiliau siarad cyhoeddus a chyflwyno
  • Deall systemau TG perthnasol
  • Deall rôl y Cyngor, ei drefniadau llywodraethu a'i ymrwymiadau rheoleiddiol a chyllidebol.

Bydd modd datblygu'r sgiliau yma pan fyddwch chi'n dod yn Gynghorydd etholedig, ac mae gan y Cyngor becyn eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu sydd ar gael i bob Cynghorydd.