Cyngor - Mae'r holl gynghorwyr yn aelodau o'r Cyngor llawn. Mae'r Cyngor llawn yn dadlau ac yn penderfynu ar bolisïau yn seiliedig ar adroddiadau gan y pwyllgorau ac yn cytuno ar brif bolisïau'r Cyngor a'i gyllideb. Mae'r Cyngor llawn fel arfer yn cwrdd bob 4 i 6 wythnos.
Cabinet - Bydd nifer fach o uwch gynghorwyr yn ffurfio'r Cabinet neu'r bwrdd gweithredol dan arweiniad arweinydd y Cyngor. Y Cabinet yw llywodraeth y Cyngor, sy'n cynnwys aelodau o'r grŵp gwleidyddol sydd â'r mwyafrif o aelodau ar y Cyngor neu'r glymblaid. Mae'n gwneud penderfyniadau ynghylch rhedeg y Cyngor o ddydd i ddydd. Mae pob aelod o'r cabinet fel arfer yn cymryd cyfrifoldeb am faes penodol, sef portffolio. Er enghraifft, mae addysg, yr amgylchedd neu'r gwasanaethau cymdeithasol i gyd yn bortffolios. Bydd y Cabinet fel arfer yn cwrdd unwaith yr wythnos.
Trosolwg a Chraffu - Mae'r holl gynghorwyr eraill yn cymryd rhan mewn gwaith trosolwg a chraffu ar gyflawniad y Cyngor a chyrff cyhoeddus eraill y mae eu gwaith yn effeithio ar gymunedau lleol. Mae gwaith trosolwg a chraffu yn hanfodol, gan ei fod yn craffu ar y penderfyniadau a wneir gan y Cabinet ac effeithiolrwydd polisïau a chyflawniad y Cyngor.
Pwyllgorau Rheoleiddio - Mae llawer o gynghorwyr hefyd yn eistedd ar bwyllgorau sy'n delio â chynllunio a thrwyddedu. Mae hyn yn golygu y gallech chi fod yn gwneud penderfyniadau am adeiladau a datblygiadau lleol neu dacsis a thafarndai ar draws ardal y Cyngor. Yn nodweddiadol bydd pwyllgor rheoleiddio yn cyfarfod bob 2 i 4 wythnos.
Pwyllgorau Eraill - Mae modd i rai cynghorwyr hefyd fod yn aelodau o bwyllgorau eraill, megis y pwyllgor llywodraethu ac archwilio sy'n sicrhau bod polisïau a phrosesau ariannol y Cyngor mewn trefn neu'r pwyllgor safonau sy'n sicrhau bod aelodau'n ymddwyn yn briodol (mwy am sut dylai aelodau ymddwyn isod) neu bwyllgorau ad hoc fel y rhai a ffurfiwyd i benodi staff newydd.
Cyrff Lleol Eraill - Penodir cynghorwyr i gyrff lleol allanol fel cyrff llywodraethu ysgolion, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a phartneriaethau lleol, naill ai fel cynrychiolwyr y Cyngor neu fel ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr. Mae rhai cynghorwyr hefyd yn rhan o awdurdodau tân ac achub a, lle mae Cyngor yn cynnwys rhan o awdurdod parc cenedlaethol, awdurdod parc cenedlaethol.
Os ydych chi'n aelod o blaid wleidyddol bydd disgwyl i chi hefyd fynychu cyfarfodydd grŵp gwleidyddol, hyfforddiant gyda'ch plaid ac achlysuron eraill.