Mae Cynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymuned leol wrth redeg eu Cyngor lleol. Mae Cynghorwyr yn helpu i benderfynu sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu, eu hariannu a'u blaenoriaethu. Mae Cynghorwyr yn gweithio gyda gweithwyr y Cyngor i sicrhau bod gwasanaethau'n berthnasol ac yn cael eu darparu'n effeithiol.
Mae bod yn Gynghorydd yn fath arbennig o wasanaeth cyhoeddus sy'n eich rhoi mewn sefyllfa unigryw lle gallwch chi wneud penderfyniadau am faterion lleol a gwella ansawdd bywyd pobl yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n rhoi cyfle i chi helpu'ch cymuned leol a bod yn rhan o garfan sy'n darparu gwasanaethau allweddol yn eich ardal chi.
Mae gwaith Cynghorydd yn cynnwys:
- cynrychioli eich ward leol
- gwneud penderfyniadau
- adolygu a datblygu polisïau a strategaeth
- gwaith trosolwg a chraffu
- dyletswyddau rheoleiddio
- arweinyddiaeth gymunedol ac ymgysylltu â'r gymuned.