Gallwch chi sefyll mewn etholiad fel ymgeisydd annibynnol neu fel ymgeisydd gwleidyddol ar ran grŵp / plaid. Os ydych chi'n aelod o blaid wleidyddol neu'n bwriadu ymuno neu sefyll fel aelod o blaid wleidyddol, bydd eu hasiantau yn gweithio i chi. Os ydych chi'n sefyll fel aelod annibynnol bydd angen i chi ofyn am gyngor gan wahanol asiantaethau.
I ddod yn gynghorydd, mae'n rhaid i chi'n enwebu'ch hun i sefyll yn yr etholiad. Oni bai bod lle gwag yn codi o fewn ward, cynhelir etholiadau ar ddydd Iau cyntaf mis Mai unwaith bob pump blynedd.
I sefyll mewn etholiad mae'n rhaid i chi lenw ffurflen enwebu. Mae'r ffurflenni yma ar gael o'r dudalen etholiadau sydd ar ddod perthnasol neu mae modd gofyn amdani drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol.
Mae modd cael pecynnau enwebu trwy e-bostio GwasanaethauEtholiadau@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu drwy fynd i 10-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2BW.