Disgrifiad o’r pwyllgor

Dyma gylch gorchwyl Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd:

  • Ymgymryd â swyddogaeth yr awdurdod lleol mewn perthynas â phenodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
  • Adolygu darpariaeth o staff, swyddfeydd/cyfleusterau, ac adnoddau eraill sydd ar gael i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, er mwyn gofalu bod y cyfan yn ddigonol gyda golwg ar gyfrifoldebau'r swydd
  • Cyflwyno adroddiadau i'r Cyngor llawn ynglŷn â'r cyfryw faterion