Skip to main content

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn ysgolion yn RhCT

Mae'n darparu gwybodaeth am y ffordd y mae ysgolion yn RhCT yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol a'r ffyrdd maen nhw'n diogelu'ch preifatrwydd.

Gwybodaeth am y wefan

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn darparu'r wefan yma a'r hysbysiadau preifatrwydd sydd wedi'u cynnwys ar ran ysgolion y rhanbarth yn unol â chytundeb lefel gwasanaeth diogelu data.

Darparu gwybodaeth breifatrwydd i unigolion

Yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data, yr ysgolion yw 'rheolwyr' y gwybodaeth bersonol maen nhw'n ei phrosesu.

Ac yntau'n rheolwyr, rhaid i ysgolion fod yn agored ac yn onest gydag unigolion (megis disgyblion a rhieni) ynglŷn â sut maen nhw'n defnyddio data personol. Un ffordd o wneud hyn yw cyhoeddi hysbysiad preifatrwydd.

Dogfen sy'n esbonio sut mae gwybodaeth bersonol unigolion yn cael ei defnyddio ac yn darparu gwybodaeth yw hysbysiad preifatrwydd. Bydd hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â;

  • 'Rheolwr' y data personol
  • Gyda phwy i gysylltu mewn perthynas â materion neu bryderon am ddiogelu data
  • Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data
  • Y mathau o ddata personol sy'n cael eu prosesu
  • Y categorïau o unigolion mae'r rheolwr yn prosesu eu data personol
  • Pam mae’r data personol yn cael ei brosesu
  • Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol
  • Pwy sy'n casglu'r data personol a sut
  • Y sefydliadau mae posibilrwydd y bydd y data personol yn cael ei rannu â nhw
  • Yr hyd bydd y data personol yn cael ei gadw
  • Eich hawliau diogelu data a'ch hawl chi i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae pob ysgol wedi cyhoeddi hysbysiad preifatrwydd cyffredinol ar eu gwefannau sy'n esbonio'n fanwl sut caiff data personol ei ddefnyddio. Mae CBSRhCT hefyd yn darparu hysbysiadau preifatrwydd pellach ar ran ysgolion mewn perthynas â gweithgareddau penodol.

Hysbysiad preifatrwydd POB YsgolLinc                  
Ddamweiniau a Digwyddiadau  Cliciwch yma

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cliciwch yma
Phresenoldeb Cliciwch yma
Ymddygiad a gwahardd Cliciwch yma
Theledu cylch cyfyng Cliciwch yma
Ymweliadau addysgol Cliciwch yma
Hawliadau yswiriant Cliciwch yma
Asesiadau Cynnydd Dysgwyr Cliciwch yma
Cofnod Addysgol a Chwricwlaidd y Disgybl Cliciwch yma
Diogelu Cliciwch yma                     
Chwynion yn yr ysgol                                                                                Cliciwch yma
Digwyddiadau ysgol a gweithgareddau (gan gynnwys tynnu lluniau a recordio/ffilmio) Cliciwch yma                 
Prydau ysgol Cliciwch yma                   
Hysbysiad preifatrwydd Ysgol GYNRADD Linc                      

Clwb Brecwast                                                                             

Cliciwch yma
Hysbysiad preifatrwydd Ysgol UWCHRADDLinc                         
Gyrfaoedd a phrofiad gwaith Cliciwch yma
Arholiadau                                                                                                Cliciwch yma           
Ôl-16 oed Cliciwch yma

Rhagor o wybodaeth

Pe hoffech chi ragor o wybodaeth am hysbysiad preifatrwydd neu faterion diogelu data mewn ysgolion, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data yr ysgol.

Cliciwch yma am fanylion cyswllt yr ysgol.