Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar

Sut mae'r Garfan Teuluoedd a Mwy, y Gwasanaeth i Blant ag Anghenion Ychwanegol a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol.  

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Rydyn ni'n eich annog chi i ddarllen yr hysbysiad yma ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor. 

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud.

Mae carfan y Gwasanaeth i Blant ag Anghenion Ychwanegol, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, yn cynnig pecyn cymorth i deuluoedd sydd ag anghenion cymhleth o ganlyniad i anghenion niwro-ddatblygiadol, gwybyddol neu gorfforol eu plentyn/plant. Mae'r garfan hefyd yn gyfrifol am reoli'r anghenion yma gan fynd i'r afael â'r effaith ar y teulu cyfan.

Mae Carfan y Gwasanaeth i Blant ag Anghenion Ychwanegol yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant ag anableddau hefyd ac maen nhw'n derbyn atgyfeiriadau gan y Garfan Plant Anabl. Mae'r garfan yn mynd i'r afael â'r ffordd y mae anabledd y plentyn yn effeithio ar ei frodyr/chwiorydd a'r teulu.

2. Gan bwy ydyn ni'n casglu a phrosesu gwybodaeth bersonol a pham? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth bersonol, er enghraifft; enwau, dyddiadau geni a chyfeiriad pob aelod o'r teulu sy'n byw yn y cartref neu sy'n rhan o'r uned deuluol. 

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Daw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd gennym ni yn uniongyrchol gennych chi pan fyddwch chi'n cael eich atgyfeirio a'ch asesu gan y Garfan Asesu.  

Efallai byddwn ni'n derbyn gwybodaeth amdanoch chi gan weithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys; 

  • Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
  • Carfan Ymholi ac Asesu
  • Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys
  • Carfan Plant Anabl
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc
  • Seicolegwyr Addysg
  • Ysgolion
  • Gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd fel Ymwelydd Iechyd neu bediatrydd 

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu er mwyn cwblhau unrhyw atgyfeiriadau sydd eu hangen arnoch chi yn eich barn chi er mwyn i ni eich cefnogi chi. 

Bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu i ni yn cael ei rhannu â'r asiantaeth neu'r gwasanaeth rydyn ni'n eich atgyfeirio ato. 

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio a rhannu'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol yw darparu cefnogaeth i chi gan y Gwasanaeth Teuluoedd a Mwy a'r Gwasanaeth i Blant ag Anghenion Ychwanegol, yn bennaf yn rhan o’n ‘rhwymedigaeth gyfreithiol’ yn unol â'r ddeddfwriaeth ganlynol; 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Deddf Plant 1989

Deddf Plant 2004

Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000

Deddf Cydraddoldeb 2010 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei rhannu'n dibynnu ar y gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, er enghraifft: 

Gyda'ch caniatâd chi, mae'n bosibl y bydd gwybodaeth eich plentyn yn cael ei hanfon at y garfan Niwroddatblygiadol. Yna bydd modd i'r garfan rannu'r manylion diweddaraf gyda chi ynglŷn â lleoliad eich plentyn ar y rhestr aros ar gyfer asesiad. 

Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth berthnasol gydag adrannau eraill y Cyngor, lle bo angen, fel y Gwasanaethau i Blant a'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid a'r Gwasanaeth Addysg. 

7.  Am faint o amser byddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?

Bydd hyn yn dibynnu ar y gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn gennym ni. 

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar system y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth cyhyd â'ch bod chi'n derbyn cymorth gan y gwasanaeth.  Pan fydd eich amser gyda'r gwasanaeth yn dod i ben, bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth a bydd eich gwybodaeth ond yn cael ei chadw cyhyd â bod ei hangen.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau.

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod: