Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau ieuenctid 11-25 oed fel sy wedi’i rhagnodi yn Adran 123 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau (2000). Mae'r Ddeddf yma mewn grym yng Nghymru dan Gyfarwyddiadau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Cymru) 2002, sy'n cyfarwyddo Awdurdodau Lleol yng Nghymru i:
a) Darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid
b) Sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth cymorth ieuenctid, neu
c) Cymryd rhan yn narparu gwasanaethau cymorth ieuenctid, gan roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn rhoi cymorth i bobl ifainc 11-25 oed gyflawni eu potensial a goresgyn rhwystrau dysgu a dilyniant. Mae'r gwasanaeth yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn cynllunio darpariaeth y gwasanaeth, fel bod y ddarpariaeth yma'n bodloni anghenion pobl ifainc yn RhCT.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed, sy'n ymgysylltu â'r gwasanaeth ar hyn o bryd ac sydd wedi ymgysylltu â'r gwasanaeth yn y gorffennol.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
-
Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad a rhifau ffôn
-
Gwybodaeth adnabod, gan gynnwys dyddiad geni
- Gwybodaeth iechyd gan gynnwys alergeddau ar gyfer ymweliadua/ gweithgareddau oddi ar y safle
- Pa wasanaethau cymorth sy'n cael eu cynnig i bobl ifainc a chanlyniad yr ymyrraeth sy's cael ei chynnig
Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth ynghylch data 'Ddim Mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant' (NEETs) mewn perthynas â diogelu a lles.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am blant a phobl ifainc rhwng 11 a 25 oed sy wedi'u hatgyfeirio at y Gwasanaeth.
Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan:
-
Y Bobl Ifainc yn uniongyrchol
-
Rhieni/gwarcheidwaid/cynhalwyr
-
Ysgolion/Colegau
-
Y Gwasanaethau Cymdeithasol
-
Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
-
Gyrfa Cymru
- Iechyd
- Yr Heddlu
- Elusennau a sefydliadua trydydd sector sy'n gweithio gyda'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau cymorth i bobl ifainc (e.e. Llamau, Barnardo's, Barod)
Yn dilyn yr atgyfeiriad, mae'r gwasanaeth yn cynhyrchu ei wybodaeth fewnol ei hun yn rhan o'r broses o ddelio â'r person ifanc e.e. adroddiadau cynnydd, asesiadau ac adolygiadau.
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:
-
Nodi'r cymorth perthnasol sydd ei angen ar y person ifanc dan sylw
-
Er mwyn trefnu gweithiwr achos a darpariaeth ymyrryd briodol
-
Sicrhau diogelu a lles pobl ifainc gan gynnys unrhyw wybodaeth icehyd a diogelwch (yn achos damwain)
-
Rhannu gwybodaeth i'r paneli perthnasol er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth fwyaf addas yn cael ei gynnig i'r person ifanc
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer fydd un neu ragor o'r canlynol:
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth bersonol ynghylch pobl ifainc rhwng 16 a 24 oed gyda'r adrannau mewnol a darparwyr gwasanaeth canlynol, fel bod modd i'r adrannau hynny ein cynorthwyo ni wrth gyflawni ein dyletswyddau sy'n ymwneud â materion Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid. Mae modd i'r rhain gynnwys:
Gwasanaethau Mewnol y Cyngor, gan gynnwys:
-
Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
-
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes
-
Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant
Sefydliadau a darparwyr hyfforddiant dibynadwy, gan gynnwys:
O ran materion lles a diogelu'r plentyn, mae'n bosibl y bydd hi'n angenrheidiol i rannu gwybodaeth heb yn wybod i chi a heb eich caniatâd.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd at ddibenion gweinyddu ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion rydyn ni'n eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: gyci@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 281436
Trwy lythyr: Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf,Tŷ Trevithick, Abercynon, CF45 4UQ
|
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.