Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Mae Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned y Cyngor yn cynorthwyo oedolion i fyw yn eu cartrefi eu hunain trwy ddarparu pryd bwyd o ansawdd a sicrhau bod gan gleientiaid gyswllt bob dydd gydag eraill. Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys:
- Staff cegin - sy'n paratoi, coginio a phecynnu'r prydau bwyd.
- Staff dosbarthu - sy'n mynd â'r prydau i dai cleientiaid.
- Gwasanaeth Cefnogi Gweinyddol - sy'n gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth i ddarparu cefnogaeth weinyddol a delio ag atgyfeirio cleientiaid. Mae modd i gleientiaid eu hatgyfeirio eu hunain, neu mae modd i deuluoedd cleient, ysbytai, Gwasanaethau Cymuned RhCT, neu ddarparwyr iechyd eraill e.e. darparwyr gofal cartref allanol, eu hatgyfeirio nhw.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Gwybodaeth am yr unigolyn sy'n cael ei atgyfeirio:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod coffor allweddi a rhif ffôn
- Manylion cyswllt perthynas agosaf, gan gynnwys enw a rhif ffôn
- Dyddiad geni
- Math o daliad e.e. arian neu ddatganiad
Mewn rhai amgylchiadau, byddwn ni hefyd yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth fwy sensitif am y cleient. Byddai hyn yn cynnwys:
- Gwybodaeth iechyd - fel gwybodaeth alergedd a gofynion dietegol arbennig i sicrhau ein bod yn darparu'r prydau mwyaf addas.
- Gwybodaeth ar gyfer y gyrrwr e.e. os yw'r cleient yn cymryd amser i ateb y drws oherwydd cyflwr meddygol, neu os dylai'r pryd gael ei roi ar blât ar hambwrdd.
- Gwybodaeth at bwrpas gweinyddu e.e. nodyn i ni beidio â chanslo'r prydau bwyd oni bai bod y perthynas agosaf yn ein cyfarwyddo i wneud hynny.
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am gleientiaid y gorffennol a'r presennol sy wedi'u hatgyfeirio at y Gwasanaeth
Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan:
- Y cleient yn uniongyrchol - yn ystod y cyswllt cyntaf dros y ffôn
- Perthynas agosaf - pan fyddan nhw'n atgyfeirio cleient i'r gwasanaeth neu'n cysylltu â ni i roi gwybod am newid i'r gwasanaeth - e.e. os yw'r cleient yn treulio cyfnod yn yr ysbyty ac ati
- Gwasanaethau Cymuned - Carfan Gwasanaethau Oedolion
- Gwasanaethau Iechyd - ysbytai a chwmnïau gofal yn y cartref
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:
- Darparu pryd o fwyd i'r cleient o'i ddewis sy'n addas i'w ofynion dietegol
- Er mwyn sicrhau diogelwch a lles cleientiaid e.e. os oes achos pryder - yn ystod cyflwyno bwyd
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu Gwasanaethau Prydau yn y Gymuned yw cyflawni ein swyddogaethau fel awdurdod cyhoeddus ac er budd y cyhoedd fel sy wedi'u nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 h.y. i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
O dan amgylchiadau lle mae angen gwarantu lles a diogelwch cleientiaid, mae'n bosibl bydd rhaid i'r Gwasanaeth rannu gwybodaeth gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Ambiwlans, yr Heddlu a Gwasanaethau Cymuned.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am y flwyddyn gyfredol a blwyddyn ar ôl hynny.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost: gwasanaethauarlwyo@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 744150
Trwy lythyr: Gwasanaethau Arlwyo, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ
|