Pryd yn y Gymuned yw un o'r ffyrdd y mae modd i ni'ch helpu chi i barhau i fyw bywyd iach ac annibynnol.
Rydyn ni'n darparu pryd poeth dau gwrs, wedi'i baratoi yn lleol gyda chynhwysion ffres, yng nghanol y dydd, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11.30am a 2.15pm (ac eithrio gwyliau banc). Yn ogystal â hynny, mae modd darparu 2 bryd oer ychwanegol ar ddydd Gwener, i chi eu bwyta dros y penwythnos.
Mae'r gwasanaeth yma ar gael i bobl sydd dros 60 oed ac sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Serch hynny, mae modd i ni ddarparu prydau bwyd i bobl dan 60 oed sy wedi cael eu hasesu ac sydd angen y gwasanaeth yma.
Mae'r gwasanaeth yn hyblyg dros ben ac mae modd newid archebion prydau ar sail ddyddiol neu wythnosol. Rhowch wybod inni ddiwrnod gwaith ymlaen llaw a fyddech chi'n hoffi pryd neu'n dymuno’i ganslo.
Mae'r prydau'n cael eu darparu mewn pecyn arbennig gyda chaead plastig y mae modd ei ailgylchu. Rydyn ni'n eich cynghori chi i fwyta'r pryd poeth cyn gynted ag y bydd yn cyrraedd, a rhoi'r pryd wedi rhewi mewn rhewgell a'i aildwymo mewn microdon nes ei fod yn chwilboeth.
Ffoniwch y swyddfa ar y rhif ffôn isod neu siaradwch â'r gweithiwr Prydau yn y Gymuned sy'n cludo'ch bwyd i chi am ragor o wybodaeth.
Faint bydd rhaid i mi ei dalu?
Rydyn ni'n codi tâl o £4.80 y pryd am y gwasanaeth yma o 1 Ebrill 2024.
Byddwn ni'n anfon anfoneb atoch chi bob mis ac mae modd ichi dalu dros y ffôn, ar-lein, drwy drosglwyddiad BACS neu gydag arian parod neu gerdyn debyd/credyd yn eich Canolfannau IBobUn agosaf.
Manylion cyswllt