Mae gwaith ymchwil yn bwysig iawn o ran helpu Aelodau Etholedig gyda'u gwaith fel cynrychiolwyr y gymuned ac ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd. Fel Cyngor, rydyn ni'n rhoi cymorth i Aelodau mewn perthynas â cheisiadau ymchwil wrth iddyn nhw weithio gydag etholwyr, craffu ar ddeddfwriaeth, datblygu polisïau, cyflawni unrhyw rolau sydd gyda nhw ar ran y Cyngor a chynnal gwaith trosolwg a chraffu effeithiol. Mae modd i waith ymchwil ddarparu data ystadegol, gwybodaeth hanesyddol, siartiau, polisïau a deunydd cefndirol ar bwnc penodol.
Rydyn ni'n annog pob Aelod Etholedig i gyflwyno ystod eang o geisiadau ymchwil ac rydyn ni'n credu y dylai canlyniadau unrhyw waith ymchwil gael eu rhannu mewn modd teg, a hynny gyda phob Aelod Etholedig a'r cyhoedd. Dyma rai enghreifftiau o adroddiadau ymchwil blaenorol y mae Aelodau Etholedig wedi gwneud cais amdanyn nhw:
Dolenni Allanol (Awgrymiadau)