Cynhwysion
500g o gig eidion Cymreig wedi'i friwio
1 winwnsyn wedi'i dorri
1 ewin garlleg (wedi'i falu)
2 foronen, wedi'u torri
100g o bys
1 tun o domatos
1 peint o stoc cig eidion
1 can o Stowt Cymreig Brains
2 lwy de o bowdwr grefi
4 tafell drwchus o fara
2 lwy fwrdd o olew olewydd
50g o gaws parmesan wedi'i gratio
Dull
Coginiwch y briwgig mewn padell drom dros wres uchel am tua 5 munud i'w frownio. Ychwanegwch y winwns, y garlleg a'r moron a ffriwch y rhain am ychydig funudau pellach. Ychwanegwch y stoc, y pys a'r stowt a choginiwch am tua 20 munud ar fudferw isel iawn. Gwnewch y saws yn fwy trwchus trwy ychwanegu'r powdr grefi.
Cymerwch 4 tafell drwchus o fara (bara sydd ychydig yn hen sydd orau) a'u rhwygo'n ddarnau. Rhowch y rhain mewn tun rhostio wedi'i iro, a'u coginio mewn ffwrn ar dymheredd canolog. Taenwch y caws parmesan drostyn nhw ar ôl 5 munud a pharhewch i'w brownio