Mae'r cwpan fel arfer yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn yn y Rasys Nos Galan er cof am sylfaenydd yr achlysur, Bernard Baldwin MBE. Yn anffodus, bu farw Bernard, oedd yn noddi'r achlysur byd-enwog, ar 3 Ionawr 2017 yn Ysbyty Cwm Cynon yn 91 mlwydd oed.
Erbyn hyn mae ei ferch, Alison Leighton-Williams, wedi cymryd rôl ei thad fel noddwr Rasys Nos Galan.