Mae'n bleser gen i estyn gwahoddiad i chi i fod yn rhan o Rasys Nos Galan 2025!
Bydden ni'n hapus iawn petaech chi'n ystyried hyrwyddo'ch busnes yn rhan o raglen swyddogol Rasys Nos Galan 2025.
Bydden ni'n falch iawn o'ch cefnogaeth ar gyfer yr achlysur poblogaidd yma.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, mewn partneriaeth â Phwyllgor Nos Galan, yn paratoi rhaglen swyddogol Rasys Nos Galan bob blwyddyn.
Mae'r rhaglen swyddogol, sy'n cael ei hargraffu mewn lliw ac o'r ansawdd uchaf, yn cael ei phostio i bob person sy'n rasio a bydd copïau yn cael eu dosbarthu i siopau a busnesau yng nghanol trefi Aberpennar ac Aberdâr hefyd er mwyn i aelodau o'r cyhoedd eu darllen a'u cadw.
Bydd 3500 o gopïau yn cael eu cynhyrchu.
Mae prisiau hysbysebu i'w gweld isod:
- Tudalen Lawn £197 + TAW
- Hanner Tudalen £99 + TAW
- Chwarter Tudalen £53 + TAW
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hysbyseb yw dydd Gwener, 3 Hydref 2025.