Skip to main content

Cofrestru Ar-lein

 

CYFLE OLAF

Mae’r lleoedd olaf ar gyfer Rasys Nos Galan 2025 yn mynd ar werth NAWR.

Prynwch le yn y:

Rasys i redwyr elît (dynion/menywod)

Ras hwyl 5 cilomedr

Rasys i blant 

Peidiwch â cholli'r cyfle oherwydd unwaith y bydd lleoedd wedi mynd, byddan nhw wedi mynd.

 

Diolch am eich cefnogaeth. Mae'r holl leoedd a gafodd eu rhyddhau ar gyfer y Ras Hwyl yn rhan o’r ail gam wedi'u gwerthu. Mae modd cadw lle ar gyfer y Rasys Elît i Ddynion a Menywod a'r Rasys i Blant yma. BYDD RHAGOR O LEOEDD YN CAEL EU RHYDDHAU am 6pm ddydd Llun 22.9 

Mae Rasys Nos Galan yn ffordd berffaith i ddod â 2025 i ben. Mae'r rasys yn cael eu cynnal yn nhref hanesyddol Aberpennar. Dyma achlysur sy’n rhoi cyfle i gannoedd o redwyr gymryd rhan yn y rasys elit i ddynion a menywod neu yn y ras hwyl - mae croeso i chi wisgo gwisg ffansi hefyd! 

Bydd cyfle i'r plant gymryd rhan hefyd - bydd rasys i blant (rhwng 8-15 oed) gyda gwobrau a phodiwm ar eu cyfer nhw. 

Bydd ein Rhedwr Dirgel hefyd yn cymryd rhan yn y ras – dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi croesawu sêr y byd chwaraeon gan gynnwys Lauren Price MBE, Gareth Thomas, George North, Nigel Owens, Sam Warburton, Chris Coleman, Colin Jackson a llawer yn rhagor. 

Bydd yna awyrgylch hudolus hefyd wrth i bobl ddechrau eu dathliadau Nos Galan yn gynnar, gyda thrigolion yn ymgynnull wrth ochr y ffordd i gefnogi’r rhedwyr, croesawu'r Rhedwr Dirgel a mwynhau'r tân gwyllt a'r gweithgareddau hwyl i'r teulu. 

Mae'r achlysur yn seiliedig ar hanes Guto Nyth Brân, a fu unwaith y dyn cyflymaf yn y byd. Dyma ddyn a oedd yn gallu rhedeg saith milltir o’i fferm i ardal Porth (ac yn ôl!) yn yr amser y byddai’n ei gymryd i’r tegell ferwi. Lansiwyd Rasys Ffordd Nos Galan gan Bernard Baldwin MBE ym 1958 er mwyn cadw'r chwedl yn fyw. Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal ger bedd Guto yn Eglwys Sant Gwynno, Llanwynno,ar ddechrau'r achlysur bob blwyddyn.

Cadw Lle

 

Find-Us-On-Facebook-Promo
Follow Nos Galan on X