Skip to main content

Ynglŷn â'r Newid yn yr Hinsawdd

Y tywydd yw beth sy'n digwydd o ddydd i ddydd. Dyma beth rydyn ni'n ei weld wrth edrych allan drwy'r ffenestr a phenderfynu p'un a oes angen cot ai peidio.

Yr hinsawdd yw patrwm y tywydd mewn rhanbarth ac o amgylch y byd dros bump, deg neu ragor o flynyddoedd.

Cynhesu byd-eang yw cynhesu'r blaned rydyn ni'n byw arni hi.

Mae Newid yn yr Hinsawdd yn digwydd pan mae'r blaned yn cynhesu neu'n oeri.

Mae carbon niwtral yn golygu sicrhau cydbwysedd neu ecwilibriwm rhwng y nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu rhoi yn yr atmosffer a'r rhai sy'n cael eu tynnu allan o'r atmosffer.

Rydyn ni'n byw trwy gyfnod o gynhesu ar raddfa gyflym. Mae hyn yn arwain at newidiadau cyflym yn ein hinsawdd, gan achosi digwyddiadau tywydd eithafol, megis llifogydd ledled y Fwrdeistref Sirol yn 2020 a gwres eithafol yn haf 2022. Caiff ei adnabod yn eang gan wyddonwyr a llywodraethau bod y newid yn yr hinsawdd yn cael ei sbarduno gan lefelau uwch o nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer. Mae eu henw yn deillio o’r effaith tŷ gwydr y maen nhw’n ei greu trwy gynhesu wyneb y Ddaear a’r aer uwch ei phen. Caiff hyn ei achosi gan y nwyon sy'n dal yr egni gan yr haul. Y nwyon tŷ gwydr mwyaf cyffredin yw anwedd dŵr, carbon deuocsid (CO2) a methan.

Greenhouse Gases 1 (English)

Mae cynyddu nifer y nwyon rydyn ni'n eu cynhyrchu yn gwneud y Ddaear yn gynhesach - mae'r un peth â rhoi rhagor o ddillad arno neu roi blanced ychwanegol ar ein gwelyau. Mae llosgi tanwyddau ffosil yn ychwnaegu rhagor o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. 

Greenhouse Gases 2 (English)

Does dim modd i ni newid y byd ar ein pennau ein hunain. Ond, gyda'n gilydd mae modd i ni wneud gwahaniaeth. Drwy edrych ar sut a ble rydyn ni'n gwario, mae modd i ni arbed arian a chwarae ein rhan ni i warchod y blaned e.e. gall siopa’n lleol, mynd ar fws, trên neu gerdded yn lle gyrru, defnyddio llai o ynni, bwyta mwy o brydau sy'n deillio o blanhigion, bwyta llai o gig a newid sut rydyn ni'n cael gwared ar ein sbwriel helpu i arbed arian yn ogystal â charbon. Bwriwch olwg ar ein dolenni defnyddiol am ragor o wybodaeth ar sut i arbed arian a bod yn wyrddach.

Does dim angen i ni fod yn berffaith wrth helpu'r blaned. Pe baen ni i gyd yn newid un peth bach heddiw, yfory neu eleni, gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr i'r blaned ac i'n pocedi.

Climate-change-banner