Skip to main content

Syniadau Cyfeillgar i'r Hinsawdd o ran Gwastraff ac Ailgylchu

Mae taflu cymaint o'n pethau i ffwrdd yn cael effaith enfawr ar ein dinasoedd ac yn niweidiol i fywyd gwyllt lleol. Mae modd iddo fod yn wastraff arian hefyd. Er bod modd i ni ailgylchu llawer o bethau yn Rhondda Cynon Taf, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw lleihau faint rydych chi'n ei wastraffu yn y lle cyntaf. Byddai modd i lawer o’r pethau rydyn ni’n eu taflu i ffwrdd fod yn ddefnyddiol i rywun arall neu gael eu hailgylchu i greu rhywbeth newydd. Cofiwch y dywediad 'Sbwriel un person yw trysor person arall'!

Sbarion Bwyd Compost

Mae compostio eich gwastraff bwyd yn fanteisiol mewn sawl ffordd. Mae'n lleihau faint o wastraff bwyd sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, lle byddai'n dadelfennu ac yn cynhyrchu methan (nwy sy'n cynhesu'r blaned). Mae hefyd yn wych ar gyfer tyfu a gwrteithio'ch gardd! 

Sbwriel ac Ailddefnyddio

Dywedwch na i fagiau, cwpanau coffi, poteli ac eitemau plastig untro. Cofiwch fynd â'ch eitemau amldro gyda chi pan fyddwch chi allan.

Yn lle defnyddio batris untro, beth am roi cynnig ar rai y mae modd eu hailwefru? Mae defnyddio batris y mae modd eu hailwefru dro ar ôl tro yn well i'r amgylchedd gan eu bod nhw'n creu llai o wastraff. Mae batris y mae modd eu hailwefru hefyd yn rhatach dros amser.

Os ydych chi'n defnyddio batris untro, mae'n bwysig peidio eu taflu i'r biniau yn eich cartref. Mae batris yn cynnwys metelau trwm, a phan fyddan nhw'n cael eu casglu'n gywir, mae modd eu hailddefnyddio. Darllenwch ragor am ailgylchu batris.

Mae'ch Sbwriel chi'n Drysor

Mae dros hanner ohonon ni wedi prynu dillad a llyfrau ail-law. Ydych chi'n un ohonyn nhw?

Pam taflu rhywbeth i ffwrdd pan fod modd i rywun arall ei fwynhau?  Os oes rhywbeth gyda chi dydych chi ddim ei angen bellach, rhowch e i rywun arall. Neu ewch i fynnu bargen yn siop ailddefnyddio The Shed yn Aberdâr, Treherbert a Llantrisant! 

Ailgylchu, Ailgylchu

Mae popeth yn eich bag ailgylchu'n mynd i Ganolfan i Ymwelwyr Alun Maddox ym Mryn Pica i'w ddidoli. Ein nod yw ailgylchu 70% o'r holl wastraff sy'n dod i law. Bwriwch olwg ar y daflen ddefnyddiol yma i wybod pa eitemau sy'n gallu cael eu hailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, a'r rhai sydd ddim.  

Peidiwch â thaflu eich sbwriel ar y llawr! Mae'n niweidio bywyd gwyllt, yn rhwystro dyfrffyrdd ac yn edrych yn hyll. 

Gofal a Thrwsio

Dewch o hyd i feistr atgyweirio a gofalwch am y pethau rydych chi'n eu prynu. Mae dros hanner ohonon ni'n dweud ein bod ni eisoes yn prynu llai o eitemau, a bod y pethau rydyn ni’n eu prynu, o ansawdd gwell. Hoffai mwy ohonon ni wneud hyn. Galwch heibio i Gaffi Trwsio Cwm Rhondda neu ewch i gael y twll yn nheiar eich beic, neu sgrîn eich ffôn wedi’u trwsio yn lle prynu teiar neu ffôn newydd.

Rhoi Hen Dechnoleg i Elusen

Trwy ddefnyddio'ch eitemau am gyfnod hirach neu roi eich hen eitemau trydanol (fel gliniaduron a chyfrifiaduron) i elusen neu rywun/sefydliad arall, mae modd i chi helpu i leihau faint o wastraff rydych chi'n ei daflu a lleihau eich ôl troed carbon.

Mae llawer o lefydd o gwmpas Rhondda Cynon Taf lle gallwch chi roi eich hen offer trydanol. Er enghraifft mae modd i'r elusen TooGoodToWaste gasglu'r eitemau dydych chi ddim eu hangen nhw mwyach o garreg eich drws am ddim! Bwriwch olwg ar ei gwefan!

Os oes gyda chi hen eitemau trydanol sydd ddim yn gweithio mwyach, peidiwch â'u rhoi nhw yn eich biniau gwyrdd neu ddu. Mae modd ailgylchu'r rhain mewn canolfannau ailgylchu. Dewch o hyd i'ch canolfan ailgylchu agosaf ar wefan y Cyngor.

Climate-change-banner