Mae ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf yn HAWDD IAWN ac mae ar fin mynd hyd yn oed yn haws!
Boed yn wastraff bwyd, deunydd ailgylchu sych neu wastraff gwyrdd, rydyn ni wedi ei gwneud hi'n syml i ailgylchu mwy a gwastraffu llai.
Ac yn awr mae hyd yn oed yn haws.
Nawr mae modd i chi ailgylchu mwy o eitemau nag erioed o'r blaen gan gynnwys nifer o *blastigau meddal rydyn ni'n eu derbyn yn rhan o'ch casgliadau Bagiau Clir, a does dim angen i chi gadw'ch papur ar wahân mwyach.
Rhagor o Ddeunyddiau. Un Bag. Llawer yn haws.
Diolch i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf, fe wnaethon ni ragori ar Darged Ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ac rydyn ni'n bwrw dros 74% bob mis yn gyson!
Er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i ragori ar y targed, rydyn ni'n gwneud ailgylchu hyd yn oed yn HAWS yn RhCT. Mae modd i chi nawr ailgylchu hyd yn oed mwy o ddeunyddiau gartref - mae plastigau meddal wedi cael eu hychwanegu at gasgliadau ailgylchu'r Cyngor ac mae modd i chi nawr roi papur gyda'r holl ddeunyddiau mae modd eu hailgylchu.
Mae'r newid yn golygu bod modd i drigolion roi rhagor o eitemau, gan gynnwys amrywiaeth o *blastigau meddal yn eu bagiau ailgylchu clir yn ogystal ag eitemau ailgylchu sych eraill, gan gynnwys papur. Mae felly'n haws nag erioed i ailgylchu mwy a gwastraffu llai.
Mae'r newid yn rhan o ymgyrch newydd y Cyngor 'Mae Ailgylchu yn RhCT yn Hawdd Iawn' sy'n dathlu cyfradd ailgylchu o 70% yn yr ardal wrth annog trigolion i wneud y gorau o'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.
Ailgylchu Gwastraff Bwyd
Cadi Bwyd. Ailgylchu. Ac eto.
jjjj
Rhowch sbarion bwyd, croen llysiau, bwyd dros ben a bagiau te yn eich cadi bwyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael y gorau o'ch casgliad gwastraff bwyd wythnosol.
Beth sy'n mynd yn fy Nghadi Bwyd?
Yn ôl i'r brig
Bag Clir. Ailgylchu. Ac eto.
Ydych chi angen rhagor o fagiau?
Mae modd ailgylchu papur, cardfwrdd, caniau, poteli, cartonau – a nawr hyd yn oed plastigau meddal – drwy eich casgliadau Bagiau Clir.
Mae hi'n haws nag erioed i ailgylchu gartref.
NEWYDD: *I gynnwys rhai plastigau meddal
Rydyn ni wedi ychwanegu nifer o eitemau plastig meddal mae modd eu cynnwys yn eich casgliad ailgylchu 'Bag Clir'.
Mae hynny'n golygu bod modd ailgylchu rhagor o'r deunyddiau pecynnu rydych chi'n eu defnyddio bob dydd, cyn belled â'u bod nhw'n lân, yn sych ac yn wag.
Cewch a chroeso
- Pecynnau creision sydd ond yn cynnwys plastig (e.e. dim plastig arian y tu mewn).
- Bagiau plastig sy'n llai na bag ailgylchu.
- Bagiau plastig ar gyfer parseli/danfoniadau.
- Bagiau bwyd anifeiliaid anwes (bwyd sych, dim leinin arian).
- Bagiau sych-lanhau (dry-cleaning).
- Bagiau siwtiau plastig (dillad newydd).
- Deunydd lapio aml-becyn sy'n cynnwys plastig yn unig – h.y. dim haen arian y tu mewn (e.e. diodydd carbonedig, dŵr mewn poteli, bisgedi, creision, ac ati).
- Deunydd lapio plastig ar gyfer ffrwythau (gwag).
- Bagiau rhewgell (gwag).
- Deunydd lapio cylchgronau.
- Deunydd plastig sy'n dal papur toiled.
- Deunydd plastig sy'n dal papur cegin.
- Pacedi 'danteithion i'w rhannu' sydd ond yn blastig e.e. dim plastig arian y tu mewn (e.e. melysion, siocledi a chnau).
Dim diolch
- Pecynnau creision sydd ag arian y tu mewn*.
- Offer cartref mawr, e.e. peiriannau golchi, deunydd lapio plastig.
- Bagiau compost gardd ac uwchbridd.
- Deunydd lapio aml-becyn sy'n cynnwys deunydd arall e.e. arian y tu mewn, cardfwrdd ac ati*.
- Ffilm blastig ar ben prydau parod.
- Pecynnau rhannu sy'n cynnwys plastig arian y tu mewn*.
- Pecynnau ar gyfer tabledi ac ati (plastig tu blaen, ffoil tu cefn).
- Menig a ffedogau tafladwy.
- Netiau ffrwythau.
- Pecynnau lapio tabledi peiriant golchi llestri.
- Pecynnau lapio tabledi peiriant golchi.
- 'Poly-pockets'.
- Pacedi reis a phasta ar gyfer y ficrodon.
- Unrhyw eitem sy'n cynnwys 2 neu ragor o fathau o ddeunydd e.e. plastig gydag arian y tu mewn, cardfwrdd ac ati (cyfansawdd).*
Cofiwch
- Fel rheol syml, rydyn ni'n DERBYN UNRHYW eitem blastig feddal sy'n llai na bag ailgylchu clir, sydd ddim wedi cael ei gynhesu na'i halogi, ac sy'n cynnwys UN deunydd yn unig. Mae hynny'n golygu bod dim plastig arian ynddo, na chardfwrdd ac ati ynghlwm wrtho – DIM deunyddiau cymysg na chyfansawdd.
- Glân. Gwag. Sych.
- Mae rinsio'n gyflym mewn dŵr golchi llestri sydd ar ôl yn helpu i wella ansawdd ailgylchu.
Ddim yn siŵr? Darllenwch ein canllawiau ailgylchu.
Rydyn ni wedi Gwneud Papur yn Haws Hefyd
Does dim angen rhoi "Papur Bob Dydd" mewn bag ar wahân mwyach.
Cewch a chroeso:
- Mae papur dyddiol yn cynnwys papurau newydd, cylchgronau, papur swyddfa a phost diangen, ac mae modd rhoi'r rhain nawr yn eich Bag Clir yn ogystal â'ch deunyddiau ailgylchu eraill.
Nodwch:
- Rydyn ni'n dal i argymell y dylid rhoi symiau MAWR o bapur – er enghraifft bag llawn, gan gynnwys papur wedi'i rwygo – mewn bag CLIR ar wahân.
- Dylid rhoi papur lapio, bagiau anrhegion a phapur sydd wedi'i orchuddio â llawer o lewyrch (glitter) mewn bag tryloyw ar wahân hefyd.
Dim diolch
- Papur wal
- Papur wedi'i lygru / papur gwlyb
- Hancesi papur neu ddarnau bach o bapur
Llai o ddidoli. Llai o drafferth. Hawdd.
Beth sy'n mynd yn fy mag clir?
Yn ôl i'r brig
Sach Werdd. Ailgylchu. Ac eto.
Cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Gwyrdd
Mae modd ailgylchu toriadau glaswellt, dail a gwastraff gwyrdd trwy ein gwasanaeth gwastraff gwyrdd.
Beth sy'n mynd yn fy Sach Werdd?
Yn ôl i'r brig
Pam Ailgylchu?
Diolch i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n un o'r ardaloedd gorau yng Nghymru o ran ailgylchu.
Mae pob potel, can, blwch cardfwrdd ac eitem blastig feddal sy'n cael eu hailgylchu yn helpu i leihau gwastraff a diogelu'r amgylchedd.
Gyda'n gilydd, rydyn ni'n ailgylchu mwy ac yn gwastraffu llai.
Dal ddim yn siŵr beth i'w ailgylchu a ble?
Lawrlwytho Canllawiau Ailgylchu 12345[FP1]
Yn ôl i'r brig