Cyflwynodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar 1 Hydref 2017 mewn perthynas â mesurau rheoli cŵn ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, am gyfnod o dair blynedd. Cyflwynodd y Cyngor hefyd Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ynghylch mesurau rheoli cŵn ym Mharc Cyhoeddus Aberdâr.
Hoffen ni glywed eich barn ynghylch ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.
Mae modd gweld y gorchmynion a'r mapiau presennol yma.
Mae'r manylion yn cael eu darparu yn yr Adroddiad Cabinet ac mae crynodeb o'r ymgynghoriad ar gael yma
Mae'r ymgynghoriad yn cychwyn ar 6 Gorffennaf ac yn gorffen am 5pm ar 3 Awst 2020
Mae sawl ffordd ichi gael dweud eich dweud:
Ar-lein:
Llenwch yr holiadur ar-lein
Ffôn - 01443 425014
Trwy lythyr:
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX