Skip to main content

CYNNAL YMGYNGHORIAD AR GYNNIG I DDIWYGIO PREMIWM TRETH Y CYNGOR AR GYFER EIDDO GWAG TYMOR HIR

Mae modd i eiddo gwag hirdymor fod yn falltod ar yr amgylchedd lleol ac eiddo cyfagos yn ogystal â pheidio â diwallu'r angen lleol am dai. Fydd datblygiadau adeiladu newydd yn unig ddim yn bodloni'r galw am dai mewn modd digonol ac mae angen i'r Cyngor ddod â'r stoc tai presennol ledled Rhondda Cynon Taf yn ôl i ddefnydd. Mae Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor yn darparu strwythur ac arweiniad clir i hwyluso'r gwaith yma. Mae modd bwrw golwg ar y Strategaeth trwy glicio yma.

Ers cyflwyno’r Strategaeth Tai Gwag gyntaf yn 2017 mae tua 1,000 yn llai o gartrefi gwag yn Rhondda Cynon Taf, sy’n galonogol, ond erys tua 1,500 o eiddo gwag tymor hir ar draws y Fwrdeistref Sirol, ac mae dros 450 ohonyn nhw wedi bod yn wag am 5 mlynedd neu fwy. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod â'r rhain yn ôl i ddefnydd er mwyn iddyn nhw allu diwallu'r angen mawr am dai ledled ein cymunedau.

Un o amcanion y Strategaeth Cartrefi Gwag yw defnyddio amrywiaeth o ymyriadau er mwyn sicrhau bod pob math o dai gwag yn cael eu targedu gan alluogi iddyn nhw ddod yn ôl i ddefnydd. Mae'r Cyngor yn darparu nifer o becynnau cymorth i berchnogion i'w galluogi nhw i wneud hynny gan gynnwys darparu grantiau a benthyciadau tai. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am grantiau a benthyciadau tai sydd ar gael trwy glicio yma. Mae ymyriad pellach yn cynnwys defnyddio premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hir dymor.

Mae gan y Cyngor bwerau dewisol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i godi cyfraddau Treth y Cyngor uwch (premiwm) ar fathau penodol o eiddo.     

Mae bwriad i'r disgresiwn codi premiwm sydd wedi'i roi i Gynghorau gael ei ddefnyddio yn rhan o strategaeth ehangach, fel caiff ei amlinellu uchod, ac yn helpu'r Cyngor ynglŷn â'r canlynol: 

a) Gwella cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir fel eu bod nhw'n addas i'w defnyddio eto er mwyn darparu cartrefi diogel, sefydlog a fforddiadwy; a

b) Cefnogi Cynghorau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.   

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus tua diwedd 2022, cyflwynodd y Cyngor Bolisi Premiwm Treth y Cyngor ac ers 1 Ebrill 2023, mae’r Cyngor wedi bod yn codi swm uwch (‘premiwm’) o 50% ar ben cyfradd safonol y dreth gyngor ar eiddo sydd wedi bod yn wag ers rhwng 1 a 2 flynedd a phremiwm o 100% pan fo eiddo wedi bod yn wag am dros 2 flynedd. 

Mae'r Cyngor nawr yn ymgynghori ar gynnig i gynyddu Premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor.  Y cynnig yw codi premiwm o 100% ar eiddo sydd wedi bod yn wag ers rhwng 1 a 3 blynedd, gan godi i 200% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am dros dair blynedd. Mae'r Cyngor yn ystyried cyflwyno'r premiwm o 1 Ebrill 2025.  

Mae'r tabl isod yn nodi sut bydd y premiwm yn cael ei gymhwyso ar gyfer yr holl eiddo gwag hir dymor yn y Fwrdeistref Sirol:

Hyd yr amswer mae'r eiddo wedi bod yn wagRhwymedigaeth Treth y Cyngor BresennolRhwymedigaeth Treth y Cyngor Arfaethedig
0-6 Mis 0% 0%
7-12 Mis 100% 100%
1-2 Blwyddyn 150% 200%
2-3 Blwyddyn 200% 200%
3-5 Blwyddyn 200% 300%
5 Mlynedd a Rhagor 200% 300%
Nodwch fod rhai eithriadau penodol o ran talu Premiymau Treth y Cyngor sydd efallai'n berthnasol i'ch sefyllfa benodol chi.  Does dim hawl codi premiwm ar annedd sy'n dod o dan un o'r saith o Ddosbarthau Annedd sydd wedi'u rhestru isod:
DosbarthDiffiniadGweithredu

Dosbarth 1

Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu - terfyn amser am flwyddyn

 

Ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir 

 

Dosbarth 2

Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w rhoi ar osod - terfyn amser am flwyddyn

Dosbarth 3

Rhandai sy'n ffurfio rhan, neu'n cael eu trin fel rhan, o'r brif annedd

Dosbarth 4

Anheddau a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref person pe na bai ef/hi yn byw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan y lluoedd arfog

Dosbarth 5

Safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod sydd wedi eu meddiannu

Ail gartrefi

 

Dosbarth 6

Cartrefi tymhorol lle mae gwaharddiad i breswyliad gydol y flwyddyn

Dosbarth 7

Eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi

Mae'r Cyngor hefyd yn ymgynghori ar gynigion a fyddai'n cyflwyno trefniadau i ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) fel ymyriad pellach ac mewn amgylchiadau penodol megis lle nad oes unrhyw ragolygon realistig y bydd perchnogion yn cymryd camau i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd. 

Mae modd bwrw golwg ar ragor o wybodaeth am y cynnig yn yr adroddiad a gafodd ei ystyried gan Gabinet y Cyngor ar 17 Gorffennaf 2024 – gellir gweld yr adroddiad llawn trwy glicio yma (a chyfeirio at Eitem 6 ar yr Agenda).   

Hoffen ni glywed eich barn mewn perthynas â'r cynnig yma ac mae dolen at arolwg ar gyfer cyflwyno ymatebion i'w gweld isod. 

Death yr ymgynghoriad i ben ar 8 Medi 2024.