Erbyn hyn, mae modd i drigolion weld cynlluniau'r Cyngor ar gyfer Ffordd Osgoi Llanharan a fydd yn cael eu rhoi ar waith mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol – yn ogystal â dweud eu dweud ar y cynllun priffyrdd mawr.
O ddydd Gwener, 29 Mawrth, 2019, bydd y Cyngor yn ymgynghori â thrigolion am y cynllun.
O ran y gwaith adeiladu, mae'r ffordd osgoi arfaethedig i'r de o Lanharan wedi'i rhannu'n dri phrosiect ar wahân. Cafodd rhan orllewinol y ffordd osgoi ei hadeiladu yn rhan o gynllun Datblygu Tai Llanilid ger cylchfan Dragon Studios. Bydd rhan ganol y ffordd yn cael ei hadeiladu gan y datblygwyr tai cyn i 801 o dai (allan o 1,840) gael eu hadeiladu.
Mae'r rhan ddwyreiniol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gan y Cyngor, a fydd yn cysylltu â'r rhan ganol ym mhen deheuol Ffordd Fenter, ac yn ymestyn i'r A473 i bwynt i'r dwyrain o Lanharan, ger gorsaf betrol Llanharan.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am bythefnos, ac mae'n cynnwys dau achlysur ymgynghori cyhoeddus yn Llanharan a Bryn-cae. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud ar y cynllun yn yr achlysuron yma, yn ogystal â holi cwestiynau i swyddogion a chyflwyno adborth ar y cynlluniau. Dyma fanylion yr achlysuron:
- Neuadd Les y Glowyr, Llanharan, CF72 9NR - Dydd Gwener 29 Mawrth, 11am tan 8pm.
- Canolfan Cymuned Bryn-cae, Powell Drive, Bryn-cae, CF72 9UU - Dydd Gwener 5 Ebrill, 11am tan 8pm.
Hefyd, mae modd gweld y cynlluniau ar y dudalen yma, drwy'r ddolen isod:
Gweld cynlluniau ar gyfer cynllun Ffordd Osgoi Llanharan yma
Mae modd i drigolion hefyd gyflwyno sylwadau ar y cynigion drwy glicio ar y ddolen isod. Efallai fydd y Cyngor ddim yn ymateb i sylwadau sy'n cael eu cyflwyno drwy'r dull yma, ond bydd yn eu hystyried yn rhan o'r broses ymgynghori.
Dweud eich dweud
Mae croeso i gyfranogwyr adael eu manylion cyswllt yn rhan o'r arolwg.