O 1 Ebrill 2017, mae cynghorau yng Nghymru wedi gallu codi symiau uwch (premiwm) o hyd at 100% ar ben cyfradd safonol treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Cafodd y newidiadau deddfwriaethol eu gwneud dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac mae'r pwerau sy'n cael eu rhoi i gynghorau yn rhai dewisol. Penderfyniad i'w wneud gan bob cyngor, felly, yw a ddylid codi premiwm ar ail gartrefi neu eiddo gwag tymor hir (neu'r ddau).
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod tai o ansawdd da ar gael i'n trigolion ni gan leihau ar nifer yr eiddo gwag hirsefydlog sy'n cael effaith negyddol ar ein cymunedau ni. Fodd bynnag, mae dal 2,275 eiddo gwag ar draws y fwrdeistref sirol, a 660 ohonyn nhw wedi bod yn wag ers 5 mlynedd neu fwy.
Y cynnig yw bod premiwm y dreth gyngor yn cael ei gyflwyno ar eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag hyd at 5 mlynedd ar 50%. Byddai lefel y premiwm wedyn yn cynyddu i 100% ar gyfer yr eiddo hynny sydd wedi bod yn wag am fwy na 5 mlynedd.
Hoffen ni gael eich barn chi ar y cynnig yma