Mae'r Cyngor am geisio barn y cyhoedd, gweithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, partneriaid risg ac awdurdodau cyfagos ar Strategaeth Ddrafft Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a’r Cynllun Gweithredu.
Yn dilyn cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y Cyngor yn trafod yr ymatebion ac yn defnyddio'r rhain i ddiweddaru'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a’r Cynllun Gweithredu yn ôl yr angen. Bydd y Strategaeth derfynol, ynghyd â'r asesiadau amgylcheddol, yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth cyn cyflwyno'r dogfennau terfynol i Lywodraeth Cymru er mwyn deryn sêl bendith y Gweinidog.
Cefndir
O dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer ei ardal weinyddol. Mae’r ddeddfwriaeth yma'n nodi bod rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf “ddatblygu, cynnal, defnyddio a monitro" Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. Mae perygl llifogydd lleol yn cael ei diffinio fel perygl llifogydd sy'n digwydd o ganlyniad i ddŵr ffo'r dŵr wyneb, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin.
Mae'r ail gyhoeddiad o Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020 yn sbarduno'r gofyniad o dan Adran 10 (5) Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i'r Cyngor fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i adolygu'r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol.
Mae'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu yn cyflwyno cynnigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i reoli llifogydd lleol yn Rhondda Cynon Taf am y chwe blynedd nesaf. Wrth geisio eich barn ar gynnwys y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu, mae'r arolwg yma'n cynnwys cwestiynau ar Strategaeth a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (Rhan 1), Asesiad Amgylcheddol Strategol (Rhan 2) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (Rhan 3).
Paratowyd Asesiadau Effaith drafft ar Gydraddoldeb ac ar y Gymraeg i gefnogi'r cynigion a bydd y rhain yn cael eu diweddaru i ystyried yr adborth a gafwyd drwy'r broses ymgynghori yma cyn mabwysiadu'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu terfynol.
Am ragor o wybodaeth ewch i Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Caeoedd yr ymgynghoriad ar y 2 Hydref 2023.
Mae crynodeb o’r Strategaeth ddrafft Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a chrynodeb o’r ymgynghoriad ar gael yma:
I weld y Strategaeth ddrafft Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a’r Cynllun Gweithredu llawn, a’r asesiadau amgylcheddol cysylltiedig, ewch i’r dolenni isod: