Bwriwch olwg ar yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf.
| Teitl | Pwnc | Dyddiad diwedd |
Cŵn yn Baeddu a'r Rheolau Rheoli Cŵn Mewn Mannau Cyhoeddus yn RhCT (Dewch i Siarad) |
Rydyn ni'n ymgynghori ynghylch a ddylen ni ymestyn y Gorchymyn(ion) Diogelu Mannau Cyhoeddus ynghylch Cŵn yn Baeddu yn Rhondda Cynon Taf. Mae angen adnewyddu'r gorchmynion bob 3 blynedd felly rydyn ni'n casglu barn er mwyn ymestyn y gorchmynion am gyfnod o 3 blynedd o 1 Hydref 2026.
|
20 Gorffennaf 2026 |
| Ymgynghoriad ar Orsaf Fysiau Pontypridd |
Mae'r Cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar wella'r seilwaith yn y brif orsaf fysiau ym Mhontypridd – bydd eich mewnbwn yn bwysig er mwyn llywio'r cynlluniau! Rydyn ni'n croesawu'r holl adborth, a bydd yn cael ei ystyried i lywio'r gwaith dylunio ar gyfer gwelliannau i Orsaf Fysiau Pontypridd yn y dyfodol.
|
20 Gorffennaf 2026 |
| Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbert - Cam 2 a 3 |
Nod y cynllun yw darparu llwybr uniongyrchol oddi ar y ffordd sy'n ddiogel, cyfforddus ac yn ddeniadol i gerddwyr a beicwyr, gan integreiddio â seilwaith Teithio Llesol arfaethedig a phresennol ar draws yr ardal.
|
21 Gorffennaf 2026 |
| Ymgynghoriad Strategaeth Cartrefi Gwag 2026 – 2031 |
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i fynd i'r afael â chartrefi gwag ledled RhCT a chynyddu nifer y tai sy'n cael eu defnyddio eto. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion wneud sylwadau a chyfrannu at ddrafft terfynol y Strategaeth.
|
16 Awst 2026 |
| Ymgynghoriad Strategaeth Sector Rhentu Preifat |
Ein gweledigaeth yw “sicrhau bod y sector rhentu preifat yn RhCT yn cynnig llety diogel, fforddiadwy, sy'n cael ei reoli'n dda ac o safon dda, gan greu tenantiaethau hygyrch a chynaliadwy.” Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion wneud sylwadau a chyfrannu at ddrafft terfynol y Strategaeth. |
16 Awst 2026 |
| Gadewch i ni Siarad am Deithio Llesol |
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol. Hoffai'r Cyngor ehangu a gwella ansawdd a darpariaeth llwybrau teithio llesol ledled Rhondda Cynon Taf, a bydd yr arolwg yma'n ein helpu ni i wneud hynny.
|
20 Awst 2026 |
Cysylltu â ni
Hoffech chi fod yn rhan o’r broses ymgynghori? Hoffech chi gael dweud eich dweud ar y materion allweddol? Cysylltwch â'r Garfan Ymgynghori: