Skip to main content

Strategaeth Ddigidol

Mae'r Cyngor yn datblygu Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol wedi'i diweddaru a hoffai gael eich barn. Bydd y strategaeth yn helpu i lywio sut mae trigolion, busnesau, ymwelwyr a chymunedau yn cael mynediad at wasanaethau'r Cyngor dros y blynyddoedd nesaf, boed ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

Gall technoleg ddigidol wneud gwasanaethau'n gyflymach, yn haws ac yn fwy cyfleus i lawer o bobl. Fodd bynnag, rydyn n'n cydnabod nad yw pawb yn gallu, neu'n dymuno, defnyddio gwasanaethau ar-lein, ac mae'n bwysig bod modd i bobl barhau i gael mynediad at wasanaethau yn y ffyrdd sy'n gweithio orau iddyn nhw. Dyw'r strategaeth yma ddim yn ymwneud â gwneud gwasanaethau yn rhai ar-lein yn unig.

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall beth sydd bwysicaf. Rydyn ni eisiau gwybod a ydych chi o'r farn y dylen ni fod yn canolbwyntio ar y meysydd rydyn ni'n canolbwyntio arnyn nhw, beth fyddai'n gwneud gwasanaethau'r Cyngor yn haws eu defnyddio, ac a oes unrhyw beth pwysig ar goll.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 30 Tachwedd 2026

Sut i gysylltu â ni:

Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH

Y Garfan Ymgynghori

2 Llys Cadwyn

Taff Street
Pontypridd
CF37 4TH

Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.