Skip to main content

Canol Tref Aberdâr: Beth yw eich barn?

Mae CBS Rhondda Cynon Taf ar fin dechrau llunio Strategaeth Adfywio i helpu i lywio buddsoddiad yn y dyfodol yng Nghanol Tref Aberdâr. Bydd y strategaeth yn nodi ac yn cynnig camau gweithredu themâu buddsoddi er mwyn cynorthwyo i gryfhau hunaniaeth Aberdâr fel prif dref fywiog, gynaliadwy a chyffrous.

Mae'r arolwg yma'n rhan o gam ymgysylltu anffurfiol fydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Adfywio ddrafft ar gyfer y dref. Bydd y strategaeth ddrafft yn destun cyfnod ymghynghori ffurfiol sydd i ddilyn.

Yn Rhan 1 o'r arolwg fe'ch gwahoddir i rannu eich barn a'ch syniadau am y pethau y dylen ni eu cynnwys yn ein strategaeth. Yn Rhan 2, hoffen ni gasglu rhywfaint o wybodaeth allweddol amdanoch chi i'n galluogi i wirio ein bod ni wedi ymgysylltu'n llwyddiannus â sbectrwm eang o'r gymuned leol.

Bydd angen 5-10 munud arnoch chi i gwblhau'r arolwg yma.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 9 Lonawr 2023.

E-bost

E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk

Ffonio:

Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,

ffoniwch – 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i  Ddydd Gwener

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.