Rhwng 24 a 28 Mai 2021, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) yn cynnal Archwiliad Sicrwydd o ymateb Gwasanaethau Cymdeithasol RhCT i'r Pandemig.
Cymerwch ran yn yr arolwg trwy'r ddolen isod:
Pwrpas yr “archwiliad sicrwydd hyd at bum niwrnod” yw adolygu pa mor dda y mae Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol yn parhau i helpu oedolion, plant a chynhalwyr/gofalwyr ar yr adeg anodd hon a'n cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd gwasanaethau i'r dyfodol.
Mae'r ffocws ar:
- Pa mor dda y mae Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu swyddogaethau statudol i gadw pobl sydd angen gofal a chymorth a chynhalwyr sydd angen cefnogaeth, yn ddiogel ac yn hyrwyddo eu lles yn ystod y pandemig.
- Pa mor dda y mae Awdurdodau Lleol yn atal yr angen i blant ddod i mewn i ofal; ac a yw plant yn dychwelyd adref i'w teuluoedd yn ddigon cyflym, lle bo hynny'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny.
Y cwestiynau
Bydd yr adolygiad yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol o fewn egwyddorion Deddf 2014:
Pobl - llais a rheolaeth- Pa mor dda y mae Awdurdodau Lleol yn sicrhau bod pobl, cynhalwyr ac ymarferwyr yn cael llais, yn gwneud dewisiadau gwybodus, ac yn cadw rheolaeth dros eu bywydau? Sut mae hyn yn cael ei gydbwyso â'r argymhellion a'r gofynion a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru? A all yr Awdurdod Lleol ddangos bod dysgu'n cael ei ddefnyddio i lywio ffyrdd newydd o weithio?
Atal -I ba raddau y mae Awdurdodau Lleol yn llwyddo i atal a lleihau'r angen am fwy o gefnogaeth ffurfiol neu gynyddol gan asiantaethau statudol? Gan gynnwys cymryd yr holl gamau angenrheidiol i gefnogi magwraeth y plentyn gan deulu'r plentyn a chefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl cyn cyrraedd y pwynt argyfwng.
Llesiant -I ba raddau y mae Awdurdodau Lleol yn hyrwyddo llesiant, gan sicrhau bod pobl yn cynnal eu diogelwch ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol sydd o bwys iddynt? Gan gynnwys rhyddhau plant o ofal awdurdod lleol mewn modd amserol, cefnogi pobl hŷn i fynd yn ôl adref o'r ysbyty.
Partneriaethau -I ba raddau y mae Awdurdodau Lleol yn gallu sicrhau eu hunain bod y newid sylweddol mewn cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn cael ei weithredu i'r eithaf er mwyn cynllunio gyda'r unigolyn yn ganolbwynt, sicrhau darpariaeth gwasanaeth integredig a chynaliadwyedd gwasanaeth. Ymhlith y cyfleoedd mae dysgu diweddar o ddatblygiadau digidol, gweithio mewn partneriaeth a gallu'r system iechyd a gofal cymdeithasol i symud ymlaen ar raddfa a chyflymder a gweithio tuag at Gymru Iachach.