Skip to main content

Ymgynghoriad ar Gŵn yn Baeddu - Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus

Ar hyn o bryd rydyn ni'n ymgynghori ynghylch a ddylen ni ymestyn y Gorchymyn(ion) Diogelu Mannau Cyhoeddus ynghylch Cŵn yn Baeddu yn Rhondda Cynon Taf

Cyflwynodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar 1 Hydref 2017 mewn perthynas â mesurau rheoli cŵn ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, am gyfnod o dair blynedd.  Cyflwynodd y Cyngor hefyd Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ynghylch mesurau rheoli cŵn ym Mharc Cyhoeddus Aberdâr. Yn 2020 ar ôl ymgynghoriad, adnewyddodd y Cyngor y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Mae angen adnewyddu'r gorchmynion bob 3 blynedd felly rydyn ni'n casglu barn er mwyn ymestyn y gorchmynion am gyfnod o 3 blynedd o 1 Hydref 2023.

Hoffen ni glywed eich barn ynghylch ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.

Mae'r manylion yn cael eu darparu yn yr Adroddiad Cabinet ac mae crynodeb o'r ymgynghoriad ar gael yma 

Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (Drafftiau) wedi cael eu paratoi er mwyn ategu'r cynigion. Byddan nhw'n cael eu diweddaru er mwyn ystyried adborth yr holl randdeiliaid sy'n dod i law trwy'r broses ymgynghori yma cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud mewn perthynas â'r cynnig.

Mae'r ymgynghoriad yn gorffen am 5pm ar 18 Awst 2023

Mae sawl ffordd ichi gael dweud eich dweud:

Ar-lein:

Llenwch yr holiadur ar-lein

Achlysur Ymgysylltu Ar-lein

Bydd swyddogion ar gael ar-lein i ateb cwestiynau a nodi unrhyw ymatebion ar-lein yn yr achlysur canlynol; 2 Awst, 6-7pm (Os ydych chi eisiau cymryd rhan, anfonwch e-bost i'r cyfeiriad e-bost isod).

E-bost

ymgynghori@rctcbc.gov.uk

Ffôn

Os oes yn well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun, neu os oes angen copïau papur o'r wybodaeth arnoch chi:

Ffôn – 01443 425014

Trwy lythyr:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX