Skip to main content

Casglu Data Digwyddiad Llifogydd yn dilyn effeithiau llifogydd Storm Bert ym mis Tachwedd 2024

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am gasglu a choladu gwybodaeth am y llifogydd a darodd y fwrdeistref sirol rhwng 23 a 24 Tachwedd 2024 oherwydd Storm Bert.

Yn rhan o hyn, mae'r Cyngor yn awyddus i gofnodi adroddiadau am y llifogydd gan y gymuned leol i'n helpu ni i ddeall a dilysu ein hasesiad o'r llifogydd yn well. Bydd y rhain hefyd o fudd gyda'n gwaith o asesu pa fesurau/camau mae modd eu cymryd i leihau effaith achosion o lifogydd yn y dyfodol.

Byddwn ni'n gofyn i drigolion a busnesau lleol gwblhau arolwg, a bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u defnyddio at yr unig ddiben o baratoi adroddiadau ffeithiol ar y llifogydd a ddigwyddodd, gan gyflawni ein gofynion statudol o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac i lywio'r gwaith paratoi cynlluniau lliniaru llifogydd posibl yn y dyfodol.

Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion y cafodd ei chyflwyno (fel y nodwyd uchod) yn unig. Bydd yr holl ddata personol yn cael ei drin yn unol â Pholisi Diogelu Data Cyngor Rhondda Cynon Taf a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Fydd dim gwybodaeth bersonol yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu eich gwybodaeth bersonol, ewch i dudalennau Diogelu Data'r Cyngor

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i lenwi holiadur byr ar-lein:

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben 28 Ebrill 2025.

Anfonwch dystiolaeth llun/fideo hefyd (ynghyd â disgrifiad byr o ble y cawsant eu cymryd) i DataDigwyddiadLlifogydd@rhondda-cynon-taf.go.uk.

Fel arall, os does gennych chi ddim mynediad i'r Rhyngrwyd neu e-bost, ffoniwch 01443 425014 (rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener) i drefnu amser ar gyfer cyfweliad ffôn byr fel bod modd i ni gofnodi eich adroddiad ynglŷn â'r llifogydd.

*Byddwch chi'n cadw hawlfraint unrhyw luniau neu fideo a ddarperir gennych ond yn rhoi caniatâd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf atgynhyrchu'r delweddau ar gyfer eu hadroddiad(au) a'r cyflwyniad(au) cysylltiedig. Bydd unrhyw ddelweddau rydych chi'n eu darparu yn cael eu credydu fel ‘delwedd a ddarperir gan breswylydd lleol’.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â'r garfan Rheoli Perygl Llifogydd trwy ebost RheoliPeryglLlifogydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk