Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) yn cynnwys 3 Llyfrgell Ardal sy'n gartref i gasgliadau hanes lleol a 10 Llyfrgell Gangen. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 ‘i ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd cynhwysfawr ac effeithlon i bawb".
Ein Gweledigaeth
Bod yn wasanaeth llyfrgell gweladwy, hygyrch a chynhwysol yng nghanol ein cymunedau, gan wella bywyd a lles diwylliannol, addysgol ac emosiynol ein holl drigolion a thrwy fod yn wasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi gan bawb.
Ein Blaenoriaethau Strategol Allweddol
Rydyn ni wedi nodi tair blaenoriaeth strategol allweddol a fydd yn gymorth i gyflawni gweledigaeth ein Strategaeth Llyfrgelloedd dros y 5 mlynedd nesaf:
- Cadw'r Gwasanaeth yn Berthnasol
- Gwella Profiadau yn y Llyfrgell
- Datblygu Gwasanaethau sy'n Addas ar gyfer y Dyfodol
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 1 Mai 2026
Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH
Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Taff Street
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.