Skip to main content

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd Teithiol

Roedd yr angen i addasu gwasanaethau yn ystod y pandemig Covid 19 yn gyfle i Wasanaeth y Llyfrgelloedd ystyried ffyrdd eraill o wasanaethu trigolion. archwilio Amlygodd hyn fod modd i wasanaethau amgen yn gynnig lefelau gwasanaeth gwell am gost lai.

Mae'r ddarpariaeth Gwasanaeth 'Gartref' bresennol yn effeithiol ac effeithlon yn ei ddarpariaeth o’i gymharu â chost uchel a defnydd cyhoeddus gostyngol o wasanaethau cyfredol y Llyfrgell Deithiol. 

 Hoffai'r Cyngor ymgynghori ar ddarparu gwasanaethau'r llyfrgell deithiol yn y dyfodol gan gynnwys darpariaeth y gwasanaeth 'Gartref' a gwasanaethau ar-lein ac e-lyfrau.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 1 Rhagfyr 2022

E-bost

E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk

Mae modd i chi hefyd...

Ysgrifennu aton ni –

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Ffonio:

Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,

ffoniwch – 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i  Ddydd Gwener

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.