Yn 2024, fe wnaethon ni gynnal arolwg a siarad â chynhalwyr di-dâl ledled Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â’r cymorth roedden nhw ei eisiau gan y Cyngor.
Aethon ni ati i ddadansoddi’r wybodaeth a rannwyd gyda ni ac o ganlyniad i hynny rydyn ni wedi datblygu model cymorth newydd a mwy hygyrch ar gyfer cynhalwyr di-dâl sy’n gofalu am oedolion. Mae’r model yma'n seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i’r bobl a oedd yn rhan o’r trafodaethau yma.
Hoffen ni rannu'r model yma gyda chi er mwyn rhoi cyfle i chi rannu eich barn gyda ni.
Mae’r model yn cynnwys tair lefel:
Lefel 1 – Cymorth cyffredinol a hygyrch, wedi’u lleoli mewn ardaloedd lleol ar gyfer ystod eang o bobl.
Bydd Gwasanaeth y Llyfrgelloedd yn darparu gwybodaeth wedi'i thargedu a chyngor i gynhalwyr di-dâl ac yn darparu man yn y gymuned lle bydd modd i aelodau o Garfan y Gwasanaethau i Oedolion hyrwyddo’r trefniadau cymorth sydd ar gael i gynhalwyr mewn lleoliadau ledled yr awdurdod.
Mae staff y Llyfrgelloedd eisoes yn atgyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael yn eu hardaloedd lleol ac yn eu cyflwyno nhw i’r Cydlynwyr Cymunedol sy'n gallu cynnig cymorth pellach iddyn nhw, gan gynnwys cymorth o ran yr Asesiad Lles nad ydyw'n statudol. Mae modd i’r model yma gynnig profiad gwell i gynhalwyr di-dâl.
Lefel 2 - Manwl ac yn fwy penodol o ran mynd i’r afael ag anghenion cynhalwyr di-dâl
Mae cymorth Lefel 2 yn cynnwys dwy elfen:
Cynnal gweithgareddau ar gyfer cynhalwyr di-dâl, gan ganolbwyntio ar wella cyfleoedd lleol.
Bydd y cymorth yma’n cynnwys grwpiau cymorth gan gyfoedion, hyfforddiant ymarferol, gweithdai a gweithgareddau eraill sydd wedi'u nodi yn rhai gwerthfawr gan gynhalwyr di-dâl, a hynny o ran y gweithgareddau hynny sy’n eu helpu nhw i gyflawni’u dyletswyddau gofal, a mwynhau eu bywydau personol wrth ddarparu gofal.
Bydd staff y Gwasanaethau i Oedolion sy’n meddu ar sgiliau manwl a phrofiad o weithio gyda chynhalwyr di-dâl yn cefnogi ein staff blaen tŷ i ymateb i geisiadau gan gynhalwyr di-dâl. Bydd hyn yn cynnwys ceisiadau am wybodaeth, cyngor a chymorth sy'n gysylltiedig â'u rôl a'u hamgylchiadau. Bydd y staff yma hefyd yn gallu darparu cymorth a chyfeirio’r unigolion yma at garfanau gwaith cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill yn achos ceisiadau sy’n ymwneud ag arfer da wrth gefnogi cynhalwyr di-dâl a chynnal a chynyddu sgyrsiau effeithiol â chynhalwyr (asesiad statudol i gynhalwyr).
Lefel 3 - Ymateb arbenigol a statudol ar gyfer cynhalwyr di-dâl
Mae’r lefel yma’n cyfeirio at y gwasanaethau statudol y mae gofyn i'r Cyngor eu darparu, gan gynnwys y Sgwrs i Gynhalwyr (Asesiad Statudol i Gynhalwyr) a gwasanaethau seibiant. Bydd lefel y ddarpariaeth yma ar gyfer cynhalwyr di-dâl cymwys yn parhau i gael ei hwyluso gan garfanau Gwaith Cymdeithasol y Cyngor.
Bydd yr ymgynhoriad yn cau ar 5 Hydref 2025
Rydyn ni wedi datblygu model newydd o gymorth ar gyfer cynhalwyr di-dâl sy'n gofalu am oedolion, ac rydyn ni'n awyddus i glywed eich adborth chi i sicrhau ei fod yn addas i bawb.
Os ydych chi'n cael eich cefnogi gan Gynllun Cynnal y Cynhalwyr RhCT (@RCTCarersSupportProject) rydyn ni'n eich gwahodd chi i ymuno â ni yn un o'n sesiynau galw heibio. Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau, rhannu eich barn, a chwblhau'r arolwg.
- Dydd Iau, 4 Medi, 10am - 12pm, Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen
- Dydd Mawrth, 9 Medi, 2pm - 4pm, Canolfan Hamdden Sobell
- Dydd Llun, 22 Medi, 4pm - 6pm, Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
Fyddai'n well gyda chi dderbyn copi papur? Ffoniwch 01443 425 015 i dderbyn copi papur o'r arolwg drwy'r post.
Sut i gysylltu â ni:
Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH
Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Taff Street
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.