Mae defnyddio'r rhyngrwyd yn rhan annatod o fywyd heddiw ac mae yna sawl ffordd o wneud hynny yma yn Rhondda Cynon Taf.
Dydd Gwener Digidol - Oes angen cymorth arnoch chi i ddefnyddio'r rhyngrwyd?
Caiff Dydd Gwener Digidol ei gynnal mewn lleoliadau ar draws Rhondda Cynon Taf er mwyn rhoi cymorth i unrhyw un sydd yn dymuno defnyddio'r rhyngrwyd, neu os hoffen nhw gael ychydig bach o gymorth. Mewn byd digidol, mae angen cymorth ar bawb i ddefnyddio'r rhyngrwyd er mwyn siopa, cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau neu wneud cais am swydd. Mae Dydd Gwener Digidol yn wasanaeth am ddim sy'n rhedeg bob wythnos yn ystod y tymor ysgol.
Rhyngrwyd drwy'r Llyfrgelloedd
Mae cysylltiad di-wifr am ddim i'w gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd felly dewch â'ch dyfais eich hun, neu defnyddiwch un o gyfrifiaduron y llyfrgell i ddefnyddio'r rhyngrwyd. Dewch o hyd i'ch llyfrgell agosaf.
Di-wifr am ddim mewn mannau cyhoeddus
Bydd di-wifr yn cael ei gyflwyno am ddim mewn mannau cyhoeddus mewn saith canol tref yn yr Awdurdod Lleol
Dysgwch ragor am ddi-wifr mewn canol trefi, a'r hyn mae'n gobeithio'i gefnogi.
Hoffech chi helpu eraill?
Os hoffech chi helpu pobl eraill i ddefnyddio'r rhyngrwyd, ac mae gyda chi ychydig o oriau sbâr, efallai bod modd i chi ddod yn Hyrwyddwr Digidol?
Partneriaeth 'Get RCT Online'
Mae'r cyngor yn aelod o bartneriaeth 'Get RCT Online' Mae'r bartneriaeth yn cynnwys sawl sefydliad sydd yn rhannu diddordeb mewn cynorthwyo ac annog pobl i ddefnyddio'r rhyngrwyd. Os ydych chi'n rhannu'r nod yma, efallai hoffech chi ymuno â'r bartneriaeth drwy gysylltu â Stephanie Davies o Gymunedau Digidol Cymru – stephanie.davies@wales.coop