Mae'r gampfa a'r stiwdio droelli newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon bellach wedi'u cwblhau, gyda chwsmeriaid wrth eu boddau â'r dyluniad modern a'r offer newydd sbon.
Roedd y gwaith trawsnewid syfrdanol wedi para ychydig wythnosau yn unig, diolch i ymrwymiad staff a chontractwyr.
Mae cyllid Trawsnewid RhCT wedi galluogi gwaith ymestyn y gampfa, yn ogystal â chyflwyno ardal pwysau rhydd fwy a gosod modelau newydd sbon yn lle'r holl offer ffitrwydd blaenorol. Yn bwysig, mae'r holl offer ffitrwydd wedi'i ddewis gan gwsmeriaid, a weithiodd gyda staff i nodi pa offer newydd yr oedden nhw am ei weld yn y gampfa a hefyd pa offer yr oedden nhw am weld y fersiynau diweddaraf ohono.
Mae'r ardal gyfan wedi'i hailddylunio a'i chynllunio'n ofalus, gyda graffeg fodern a goleuadau newydd. Mae'r ardal a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer dosbarthiadau troelli wedi'i hagor a'i chynnwys yn rhan o'r gampfa.
Yn y cyfamser, mae hen stiwdio ffitrwydd wedi'i thrawsnewid yn stiwdio droelli wych, sy'n cynnwys 25 o feiciau newydd – o'r safon uchaf unwaith eto – graffeg, lloriau a nenfwd newydd, system sain a goleuadau sy'n creu awyrgylch.
Gweithiodd staff Canolfan Chwaraeon Abercynon mewn partneriaeth â charfan Amrywiaeth a Chynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf, a'r Rhwydwaith Staff Anabl, i sicrhau bod yr ardaloedd newydd yn gynhwysol ac yn hygyrch. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno lifft ar gyfer cadeiriau olwyn i lefel isaf y gampfa, ffynnon ddŵr hygyrch newydd, mewnbwn pwysig o ran cynllun yr ardaloedd a'r ffordd o'u cwmpas nhw, ac offer ychwanegol mae modd ei addasu.