Skip to main content

Llety Gofal Arbenigol, Gelli

 
Mae'r Cyngor yn creu llety gofal arbenigol ar gyfer oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu. Bydd y llety'n cael ei adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn. Dechreuodd y gwaith adeiladu ddiwedd 2024, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn 2026.

Bronllwyn specialist accommodation gelli

Mae contractwr y Cyngor - Langstone Construction Group yn trawsnewid y safle ar Heol Colwyn. Bydd y datblygiad yn cynnwys 14 ystafell ag ystafell ymolchi gyda darpariaeth gofal seibiant, wedi'u hadeiladu ar lawr gwaelod is, llawr gwaelod, a llawr cyntaf. Bydd iard i orllewin yr adeilad, a bydd y maes parcio a mynediad i'r safle yn aros fel y maen nhw.

Bydd yr adeilad yn cynnwys cyfleusterau modern megis tair ystafell oriau dydd ac ystafell synhwyraidd, cegin fasnachol, ardal trin gwallt, ystafelloedd ymolchi hygyrch ac ystafell hyfforddi. 

Aelod o’r Cabinet yn ymweld â chamau cynnar datblygiad llety gofal yn y Gelli (Rhagfyr 2024)

Mae'r contractwr wedi datblygu perthynas dda iawn gyda'r feithrinfa a'r lleoliadau addysg gynradd ger y safle gwaith - a bydd yn gweithio'n galed i sicrhau  cyn lleied o darfu â phosibl ar y lleoliadau yma yn ystod y cyfnod adeiladu.

Mae Langstone hefyd wedi noddi rhaglen 'Bumbles of Honeywood' yng Nghylch Meithrin Bronllwyn, sy'n datblygu sgiliau entrepreneuraidd pobl ifainc, ac mae hefyd wedi darparu festiau llachar ar gyfer disgyblion meithrin a chynradd lleol.

Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad ei dderbyn yn 2023, gyda hen adeiladau'r cartref gofal yn cael eu dymchwel ar y safle yn 2024.

Bronllwyn,-Gelli-1
Bronllwyn,-Gelli-2